Teledu

RSS Icon
17 Hydref 2016

Rali ym mis Hydref yn golygu ras gyflymach fyth – Pugh o Dywyn yn ffansi Meake i ennill

Mae Pencampwriaeth Ralïo'r Byd yn rhuo trwy Gymru rhwng 27 a 30 Hydref ar gyfer rali olaf ond un tymor 2016 - a bydd tirwedd arw cefn gwlad Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cynnig heriau annisgwyl i yrwyr gorau'r byd.

Ond mae un peth y gallwn ei warantu; bydd rhaglen Ralïo+ S4C yno ar hyd y daith igam ogam i ddangos uchafbwyntiau Rali Cymru GB Dayinsure.

Dyma'r 13eg tro i dîm Ralïo+ ddarlledu'r digwyddiad blynyddol ac maen nhw'n edrych ymlaen at ddilyn mwy na 60 o geir o'r safon ryngwladol uchaf yn gyrru yn erbyn y cloc dros 22 rownd gyffrous, yn ogystal â 78 car yn cystadlu yn y rali genedlaethol.

Mae'r daith yn cychwyn ym Mharc Eirias Bae Colwyn ac yn gorffen yn Llandudno gan ddilyn cwrs caled sy'n cynnwys cymalau yng Nglannau Dyfrdwy, Bryniau Clwyd, coedwigoedd Dyfi yng Nghanolbarth Cymru a thros y ffin yn Swydd Gaer. Mae'r prif faes gwasanaeth yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae'r tîm cyflwyno - Emyr Penlan, Lowri Morgan, y cyn gyd-yrrwr proffesiynol Howard Davies a'r prif sylwebydd Wyn Gruffydd - yn croesawu dau gyn bencampwyr Rali Prydain i'r tîm, y gyrrwr Gwyndaf Evans o Ddolgellau a'i gyd-yrrwr Phil Pugh o Dywyn.

Dywedodd Phil Pugh, "Bydd Rali Cymru GB yn eitha' gwahanol eleni gan y bydd yn cael ei chynnal fis yn gynt na'r tymhorau blaenorol. Un fantais o gael ei dewis fel y rali olaf ond un yw y bydd yn sychach o dan yr olwynion ac o ganlyniad yn rali gyflymach."

Bydd y Ffrancwr Sébastien Ogier o dîm Volkswagen Motorsport fwy na thebyg wedi cael ei goroni'n Bencampwr y Byd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol erbyn i Rali Cymru GB Dayinsure gychwyn. Ond bydd y pencampwr yn gorfod bod ar ei orau i ennill Rali Cymru GB am y pedwerydd tro a churo pawb dros bellter o 332km sy'n hirach nag arfer.

Ychwanegodd Phil Pugh: "Dyw Sébastien Ogier ddim wedi ei chael hi'n hawdd eleni, gyda mwy o yrwyr yn ennill ralïau unigol yn 2016.

"Ar ôl dod yn ail yn Rali Cymru GB am y ddwy flynedd ddiwethaf, rwy'n credu y gallai'r gyrrwr o Ulster, Kris Meeke ennill y tro hwn. Byddai'n wych i'w weld yn dilyn ôl troed ei fentor a chyfaill, y diweddar Colin McRae, a enillodd yn '94, '95 a '97.

"Ymhlith y bobl eraill a allai godi'r Tlws Peall mae gyrwyr eraill tîm VW, Jari-Matti Latvala o'r Ffindir ac Andreas Mikkelsen o Norwy, Mads Østberg, hefyd o Norwy, o dîm M-Sport Rally a'r gyrrwr o Estonia, Ott Tänak o dîm Dmack World Rally.

"A bydda i'n cadw llygad barcud ar y Cymro, Luke Francis, o dîm Pirelli MSA, sy'n bencampwr Rali Fforestydd Cymru."

Ralïo+: Rali Cymru GB

O Nos Iau 27 Hydref ymlaen, S4C

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

Llun: Phil Pugh (Skoda Motorsport UK)

Rhannu |