Teledu

RSS Icon
10 Hydref 2016

Aberfan – y frwydr am y gwirionedd a chyfiawnder

Mae rhaglen ddogfen bwerus yn adrodd stori brwydr cymuned am y gwirionedd ac am gyfiawnder yn dilyn trychineb enbyd Aberfan a laddodd 144 o bobl ar fore 21 Hydref 1966.

Huw Edwards, un o ddarlledwyr newyddion amlyca’r BBC, sy’n edrych ar sut y gwnaeth pobl y pentref glofaol yn ne Cymru ymladd dros ddegawdau lawer am gyfiawnder ar ôl i wastraff o domen lo ddisgyn ar ysgol gynradd leol Pantglas gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion.

Mae’n 50 mlynedd ers y diwrnod tywyll hwnnw yn hanes y gymuned lofaol glos hon ac yn hanes Cymru gyfan ac fe fydd yn cael ei nodi trwy nifer o ddigwyddiadau yn y wlad ac mewn nifer o raglenni ar S4C.

Mae hyn yn cynnwys y rhaglen ddogfen bwysig hon o'r enw Aberfan: Yr Ymchwiliad, sy’n bwrw golwg ar yr hyn ddigwyddodd ar ôl y trychineb.

Mae'r rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth 11 Hydref am 9.30.

Cafodd ei chynhyrchu gefn-wrth-gefn gan gwmni cynhychu Alpha yn Gymraeg a'r Saesneg a bydd y fersiwn Saesneg yn cael ei darlledu ar BBC One Wales nos Fawrth 18 Hydref.

Meddai Huw Edwards, "Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae'r sylw wedi bod yn naturiol ar y golled a’r boen ac mae hynny’n naturiol, ond mae'n amser i godi cwestiynau o'r newydd am achosion y trychineb.

"A fyddai wedi bod yn bosibl i'w hosgoi?

"Pwy oedd yn bennaf ar fai a pham y mae wedi cymryd gyhyd i gyrraedd y gwir a sicrhau cyfiawnder?"

Mae'r rhaglen yn edrych o'r newydd ar sut y gwnaeth y teuluoedd a’r gymuned leol herio amharodrwydd cychwynnol y Bwrdd Glo Cenedlaethol a'i gadeirydd gwrthnysig, yr Arglwydd Robens i gydnabod eu cyfrifoldeb am y trychineb er gwaethaf y rhybuddion niferus a wnaed dros y blynyddoedd blaenorol nad oedd y tomenni glo yn ddiogel.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda rhieni a gollodd eu plant yn y trychineb, ymgyrchwyr cymunedol amlwg, a fu'n ymladd dros gyfiawnder a gwleidyddion blaenllaw Cymru.

Mae'n cynnwys ail greu dramatig o Dribiwnlys Aberfan 1967 a gynhaliwyd ym Merthyr pan wnaeth y Bwrdd Glo Cenedlaethol frwydro yn erbyn pob awgrym y dylen nhw fod wedi rhagweld peryglon y tomenni glo uwchben yr ysgol a rhoi iawndal i'r teuluoedd cyn yn y diwedd gydnabod eu bai.

Mae hefyd yn edrych ar benderfyniad dadleuol y Llywodraeth a’r Bwrdd Glo i ddefnyddio swm sylweddol o £150,000 o Gronfa Drychineb Aberfan i dalu am glirio safle’r ysgol.

Doedd y Swyddfa Gymreig o dan arweiniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru George Thomas ddim yn awyddus iawn i glirio’r tomenni uwchben y pentref.

Mae Sheila Lewis, mam un o'r plant a gollodd eu bywydau yn y trychineb, yn cofio protestio yn Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd, gan feddiannu’r swyddfeydd a mynnu cwrdd â George Thomas i’w berswadio i newid ei feddwl.

Meddai: "Gafodd e glywed ein neges ni yn Gymraeg a Saesneg ac fe ddywedon ni wrtho fe y bydden i’n clirio’r lle bob yn dipyn ac yn anfon y sbwriel atyn nhw!”

Er gwaethaf colli cymaint o arian y gronfa elusennol, roedd yr ymdrechion i ailadeiladu’r gymuned mor llwyddiannus nes y defnyddiwyd Aberfan fel symbol o’r hyn oedd yn bosib yng nghynllun ‘Galw’r Cymoedd’ y 70au cynnar.

Ond bu’n rhaid aros tan ddyfodiad Llywodraeth Llafur yn 1997.

Yn y lle cyntaf, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Ron Davies ad-dalu’r £150,000 yn ôl i’r gronfa ac yna yn ddiweddarach, buddsoddiad o £2 filiwn yn yr ardal o dan Brif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhodri Morgan.

Meddai Ron Davies: "I mi, roedd nid yn unig yn fater o ddychwelyd yr arian, ond yn fater o wneud ymddiheuriad cyhoeddus am weithredoedd un o fy rhagflaenwyr. Mi oeddwn yn dweud ei fod yn anghywir."

Mae Aberfan: Yr Ymchwiliad yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth 11 Hydref am 9.30pm.

Rhannu |