Teledu
Lyn a Dylan Ebenezer ar drywydd rebels Iwerddon
MAE Iwerddon a’r byd eleni’n cofio canrif ers Gwrthryfel y Pasg 1916, brwydr waedlyd a daniodd y daith hir tuag at annibyniaeth y wlad.
Mewn rhaglen ddogfen afaelgar ar S4C, mae’r darlledwyr Lyn Ebenezer a’i fab Dylan yn mynd ar daith arbennig i olrhain yr hanes ac i glywed straeon unigolion fu’n allweddol yn hanes creu Iwerddon rydd.
Bydd y rhaglen, Rebels Iwerddon 1916 gyda Lyn a Dylan Ebenezer, sy’n cael ei darlledu nos Sul, 2 Hydref ar S4C, yn ymweld â phrif leoliadau Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a hefyd hen wersyll rhyfel Fron-goch ger Y Bala lle carcharwyd rhai o’r gwrthryfelwyr yn dilyn y brwydro.
“Er mai digwyddiadau Dulyn 1916 oedd y sbarc, yng Ngwersyll Fron-goch ger Y Bala y cynnwyd y fflam go iawn,” meddai Lyn Ebenezer o Bontrhydfendigaid, Ceredigion sy’n cael ei ystyried yn un o arbenigwyr penna’r byd ar hanes Gwersyll Rhyfel Fron-goch.
“Yno carcharwyd 2,000 o rebels y gwrthryfel, Michael Collins yn eu plith.
“Dyma’r dynion fyddai’n dychwelyd i Iwerddon i barhau â’r frwydr fyddai yn y pen draw yn sicrhau eu hannibyniaeth.”
Mae’r daith yn bererindod bersonol i Lyn Ebenezer; 1966 oedd y tro cyntaf iddo ymweld â Dulyn, ar gyfer dathliadau’r hanner canmlwyddiant.
Gorymdeithiodd drwy strydoedd y ddinas gyda’r IRA a rhai o adar brith y Free Wales Army a chyfarfod rhai o’r gwrthryfelwyr oedd wedi brwydro ‘nôl ym 1916.
Un o’r rheini oedd Joe Clarke. Yn dilyn y brwydro cafodd ei garcharu yng Ngwersyll Fron-goch. Daeth Lyn yn ffrindiau mynwesol ag ef a dyna ddechrau ei obsesiwn â’r Ynys Werdd a’r hanes dramatig.
Hanner canrif yn ddiweddarach, mae’n dychwelyd ar gyfer cofio’r canmlwyddiant, gyda’i fab, y darlledwr a’r sylwebydd chwaraeon Dylan Ebenezer, sydd wedi etifeddu’r diddordeb mawr yn hanes Iwerddon.
Yn Nulyn mae Lyn yn cyfarfod un o’i arwyr Gerry Adams, Aelod o Senedd Iwerddon a Llywydd Sinn Féin sy’n dal yn flaenllaw yn yr ymgyrch dros Iwerddon unedig.
Mewn sgwrs gynnes a phersonol, mae Gerry Adams yn siarad am ei edmygedd o lyfr Lyn, Fron-goch and the Birth of the IRA.
Mae’n cymharu profiad carcharorion Fron-goch â’i brofiad ef yng ngharchar y Maze, Longkesh Gogledd Iwerddon yn y 70au lle cafodd ei garcharu heb gyhuddiad yn dilyn bomio Bloody Friday Belfast.
Ychwanegodd Lyn: “Bydda i’n mynd i Iwerddon tra bydd nerth ynddo i, tra bydd hanesion Iwerddon yn dal i droi yn fy mhen, achos dyw’r stori ddim wedi gorffen eto, dyw hi ddim yn Iwerddon Wyddelig, dyw hi ddim yn Iwerddon unedig, hyd yma.”
• Rebels Iwerddon 1916 gyda Lyn a Dylan Ebenezer, Nos Sul 2 Hydref 8.00, S4C
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C