Teledu

RSS Icon
01 Gorffennaf 2011

Carnifal Llangefni yn closio’r gymuned

Mae grŵp o enethod Llangefni wedi mynd ati i ail ddechrau’r traddodiad o gynnal Carnifal yn y dref, ac mae’r gyfres arbennig Genod y Carnifal ar S4C yn eu dilyn pob cam o’r ffordd.

Mewn tair rhaglen, gan ddechrau nos Sul 3 Gorffennaf (S4C, 20:20), cawn ddilyn hynt Nici, Llinos, Stephanie a’r criw wrth iddyn nhw geisio dod i ben â’r trefnu.

"Pan oedden ni’n blant roedd y Carnifal yn beth mawr yn Llangefni, ac roedden ni'n cymryd o’n ganiataol. Roedd o'n rili dda, ac roedd yna ysbryd cymunedol cryf yn Llangefni bryd hynny,” meddai Nici, un o’r trefnwyr.

“Mae’n waith caled sy’n galw am oriau hir ond dani dal yn cael laff. Mae o’n hwyl achos does run ohona ni yn cael ein talu i neud o felly does 'na ddim pwynt ffraeo!” esboniai Nici.

Dyddiad y Carnifal ydi dydd Sadwrn 9 Gorffennaf, a pan fydd yr holl beth drosodd fydd y genod yn trefnu eto flwyddyn nesa?

"Gawn ni weld sut eith hi ar y diwrnod! Mae o wedi bod yn lot o waith, ond buasai'n neis petai hyn yn ddechrau ar rywbeth blynyddol," meddai Nici. "Bydd y gyfres yn gofnod o bopeth rydyn ni wedi ei wneud, a bydd hi'n braf edrych yn ôl mewn blynyddoedd i ddod."

Dilynwch helynt Genod y Carnifal ar ddydd Sul 3 Gorffennaf am 20:20. Bydd yr ail bennod ar nos Sul 10 Gorffennaf am 20:30, a’r bennod olaf yn cynnwys holl firi Carnifal Llangefni ar 17 Gorffennaf.
 

Rhannu |