Teledu

RSS Icon
20 Medi 2016

Pryd fydd Y Gwyll yn ôl ar y sgrin? Datgelu'r ateb heddiw!

DOES dim angen i ddilynwyr Y Gwyll/Hinterland aros yn hwy i wybod pryd bydd ei hoff gyfres ddrama yn ôl ar y sgrin.

Y dyddiad i’w gofio yw nos Sul 30 Hydref am 9.00 ac S4C yw’r lle cyntaf ar draws y DU i’w weld.

Bydd achosion newydd yn cael eu datrys a hen achosion yn dod i’r wyneb unwaith eto.

I ychwanegu at y cynnwrf, mae S4C hefyd wedi rhyddhau clip o’r gyfres newydd am y tro cyntaf, gyda golwg ecsgliwsif o’r ddrama sydd i ddod.

Mae’r olygfa yn llawn tensiwn. Mewn ystafell holi llwm, mae DS Sian Owens (Hannah Daniel) yn gofyn cwestiynnau anodd i’w cyn bennaeth DCI Tom Mathias (Richard Harrington) wrth geisio darganfod y gwir am bwy losgodd ei garafan yn ulw ar ddiwedd yr ail gyfres.

Mae DS Owens yn amau’n gryf bod Mathias yn cuddio rhywbeth. Ydi e’n ceisio gwarchod rhywun? Pam?

Roedd hwn yn ymosodiad personol, sydd wedi dinistrio ei gartref a’i holl eiddo. Pa elyn fyddai eisiau ymosod ar y ditectif yn y fath fodd?

Bydd rhai o’r dirgelion sydd wedi codi chwilfrydedd y gwylwyr yn ystod y cyfresi blaenorol yn dod i’r fyny yn y gyfres hon, a bydd rhai o’r darganfyddiadau yn siŵr o’ch synnu.

Mae taith gyffrous yn aros ein gwylwyr, yn nhrydedd gyfres Y Gwyll Hinterland, yn ôl Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C.

Meddai: “Roedd diweddglo’r gyfres ddiwethaf mor ddramatig ac mae’r gynulleidfa, fel minnau, yn awchu am ragor o straeon ac i weld beth sydd wedi digwydd i’r cymeriadau erbyn hyn a ble fyddan nhw’n mynd nesa’.

“Bydd y drydedd gyfres yn datgelu’r gwir am nifer o’r cymeriadau ac yn eu gwthio i’r eithaf. 

“Bydd nifer o’r dirgelion tywyll sydd wedi bod yn llechu ers cyfres gyntaf Y Gwyll yn cael eu datrys a daw’r gwir i’r lan o’r diwedd.

“Ry’ ni’n sicr o gael ein cyffroi, ein rhyfeddu a’n llorio sawl gwaith yn ystod y drydedd gyfres.”

Er mwyn bod ymhlith y cyntaf i weld y cyfrinachau’n cael eu dadorchuddio, gwyliwch Y Gwyll/Hinterland ar S4C o nos Sul 30 Hydref. Peidiwch â’i fethu – ewch  i s4c.cymru/atgoffa i dderbyn nodyn atgoffa ar eich dyfais.

Mae cyfres newydd Y Gwyll yn goron ar dymor disglair o ddrama ar S4C, gyda dwy brif gyfres yn dychwelyd i’r sgrin ym mis Medi: Parch bob nos Sul am 9.00, a dos o Gwaith/Cartref yng nghanol yr wythnos draw yn Ysgol Porth y Glo, bob nos Fercher am 8.25. Gwyliwch y cyfresi newydd o’r dechrau ar lein ar alw ar s4c.cymru

Rhannu |