Teledu
Trycar - Pa yrrwr lori fydd yn ei lordio hi wrth ddilyn lein wen y lôn i lwyddiant?
Nerfau brau, canolbwyntio dwys i'r eitha' ac ambell ddrama ar y ffordd fawr mewn tryciau anferth… wrth i bedwar dreifar lori 'wannabe' wynebu'r sialensiau eithaf tu ôl i'r llyw mawr.
Bachwch eich sedd yn y cab am drip ar raglen gyffrous, newydd S4C, Trycar, ar hyd ffyrdd a thrac rasio yng Ngwynedd a Môn nos Sul, 25 Medi.
Mae angen 60,000 o yrwyr lori newydd ar y Deyrnas Unedig er mwyn ateb yr angen anferth am gario nwyddau ledled Cymru, Prydain ac Ewrop.
Ac mae cystadleuaeth S4C yn helpu i ateb y galw trwy herio pedwar person glew i frwydro yn erbyn ei gilydd a'r ffactorau ar y ffordd i ennill trwydded yrru cerbydau trwm LGV gwerth dros £1,000.
Mae'r gyrwyr yn dod o bob rhan o Gymru ac o gefndiroedd gwahanol - ond yr hyn sy'n gyffredin rhyngddyn nhw yw nad oes ganddyn nhw ddim profiad blaenorol o yrru lorïau a'u bod nhw'n ysu cael y drwydded i newid gêr yn eu gyrfaoedd.
Y sialens yw perfformio o dan bwysau o dan lygaid barcud yr hyfforddwyr Huw Williams a John Wyn Owen a'r beirniad llym ond teg o Fôn, Russell Jones. Ond pa yrrwr lori fydd yn ei lordio hi yn y lori wrth ddilyn lein wen y lôn?
Mae gan Huw Alwyn, y cerddor a'r arbenigwr rhaffau o Benrhyndeudraeth, Gwynedd, lot o ddiddordebau, ac mae'n cyfadde' "nad yw'n sticio at un peth yn rhy hir". Ond fe fydd yn rhaid iddo lynu at ei dasg i ennill y drwydded LGV.
"Dwi wrth fy modd yn dringo," meddai Huw Alwyn, "A 'swn i'n licio meddwl y byddwn i'n gallu rigio set fel gŵyl Glastonbury a chario'r holl gêr yno mewn lori. Dwi'n gwybod 'mod i'n mynd i ennill - mae hon yn y bag!"
Mae Enfys Greeney, adnewyddydd dodrefn o Lynfaes, Ynys Môn yn rhedeg siop 'Anglesey Shabby Chic' ar yr ynys ond fydd hi ddim yn gallu gyrru'n siabi os ydy hi am ennill gwobr fawr Trycar.
"Dwi'n hogan fferm, ac felly dwi wedi arfer â gweithio'n galed ac wrth fy modd yn gyrru.
"Dwi'n fodlon trio rhywbeth, dwi'n reit boncars, a dweud y gwir!
"Dwi isho pasio'r test i ddreifio rownd y wlad i 'nôl mwy o ddodrefn, mae lot o'r teulu yn dreifio loris ac felly mae o yn fy ngwaed i."
Mae Gareth Rennie, cynllunydd adeiladau o Gaeathro, ger Caernarfon, yn frwd iawn am y rhyfeloedd Napoleonig ac yn aml yn gwisgo fel soldiwr i ail greu brwydrau fel Waterloo.
Ond y rhaglen Trycar yw ei 'Waterloo' o. A fydd yn dathlu fel y Duke of Wellington neu'n benisel fel Bonaparte?
"Doeddwn i ddim wedi meddwl gyrru lori nes imi ddechau ail greu brwydrau rhyfel, ond fyddai'n handi gyrru lori i gario'r holl gêr!
"Dwi'n credu y galla i roi stab da arni hefo'r gyrru ac mae gen i'r sgiliau eraill i fod yn yrrwr lori da."
Mae Mari Slaymaker, yn berchennog siop barbwr yn Llandysul, Ceredigion, sy'n licio gyrru car a motobeicc. Ond a fydd hi'n gallu gyrru'n dwt heb dorri corneli mewn lori?
"Rwy'n berson hyderus sy'n mwynhau helpu pobl, cael laff a gyrru ceir a motobeics. Licen i yrru cwch a hofrennydd, ond peidiwch â dweud hynny wrth Mam! 'Swn i'n lico cael trwydded yrru lorïau achos un o fy uchelgeisiau yw mynd â lori gyda Smile Foundation yn llawn nwyddau i bobl dlawd, anghenus yn Romania. Wy'n lico her o dan bwysau, so bring it on!"
Mae hon yn rhaglen newydd gyffrous a difyr sydd wedi cael ei datblygu fel rhan o gynllun datblygu rhaglenni ar y cyd rhwng S4C, Sony Pictures Television a Rondo Media. Fe fydd hi'n daith i'w chofio…
Trycar
Nos Sul 25 Medi 8.00, S4C
Hefyd, nos Wener 30 Medi 10.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Ar gael i wylio ar alw ar-lein ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C