Teledu

RSS Icon
15 Medi 2016

Yr arwr rygbi Ryan Jones yn wynebu her yr Ironman

Mae cyn-gapten rygbi Cymru Ryan Jones yn dweud bod paratoi am y ras triathlon Ironman Cymru, sy'n cael ei cynnal ddydd Sul, 18 Medi, wedi ei helpu i ymdopi â'r newid diweddar yn ei yrfa.

Ers ymddeol o rygbi yn haf 2015, mae'r dyn a enillodd 75 cap dros Gymru a thair dros Lewod Prydain ac Iwerddon, bellach wedi cychwyn yn ei swydd newydd fel Pennaeth Cymryd Rhan mewn Rygbi Undeb Rygbi Cymru.

Fe fydd Ryan, sy'n 35 oed ac yn hanu o Gasnewydd yn wreiddiol, yn ymuno â 2,300 o athletwyr eraill ar gyfer y ras eleni; ras sy'n cael ei hystyried yn un o gyrsiau Ironman mwyaf heriol y byd.

Bydd yr athletwyr yn dechrau drwy nofio 2.4 milltir yn y môr ger Dinbych y Pysgod, cyn seiclo 112 milltir ar hyd lonydd heriol gan orffen y ras drwy redeg marathon 26.2 o filltiroedd.

Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau Ironman Cymru nos Sul, 25 Medi.

Lowri Morgan, y rhedwr ultra marathon ac anturiaethwr o Dre-gŵyr, fydd yn sylwebu ar y cyffro.

Cawn hefyd gipolwg ar baratoadau Ryan Jones a'i gyfaill, cyn chwaraewr Cymru a'r Llewod, Shane Williams, ar gyfer y ras.

Dywedodd Ryan Jones: "Es i ar daith feicio elusennol i Bordeaux yn Ffrainc ym mis Mehefin gyda Shane, a dywedodd e sawl gwaith, 'Mae'n rhaid i ti wneud yr Ironman.'

"Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, 'nes i gofrestru ar gyfer y ras.

"Wrth i'r Ironman agosáu, dwi'n mynd yn fwy nerfus nag dwi 'di bod ar gyfer unrhyw gamp arall erioed o'r blaen.

"Dwi wedi ei ffeindio hi'n anodd addasu i fywyd ar ôl rygbi.

"Am 15 mlynedd, Ryan Jones, y chwaraewr rygbi rhyngwladol oeddwn i, ond fe newidiodd hynny dros nos.

"Rwyt ti'n poeni am sut i addasu ac mae'n rhaid i ti drawsnewid dy hun yn broffesiynol ac yn bersonol.

"Mae peidio â chanolbwyntio ar gamp neu her wedi gadael gwagle mawr yn fy mywyd i."

Hon fydd triathlon gyntaf Ryan, tra bod Shane yn cystadlu yn Ironman Cymru am yr eildro.

"Yr Ironman yw un o'r heriau un diwrnod anoddaf yn y byd," ychwanega Ryan.

"Cefais fraw mawr wrth baratoi ond mae'r sialens wedi rhoi canolbwynt i fi.

"Dydw i ddim yn rhedwr pellter hir o gwbl.

"Mae gen i blatiau mewn un coes, rydw 'di cael triniaeth ar fy mhengliniau ac mae gen i gefn gwael.

"Dwi 'di cael cymaint o driniaeth, dwi'n rhannol fionig. Ond fe wna i gwblhau'r ras yma, heb os."

Ironman Cymru

Nos Sul 25 Medi 6.15, S4C

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Dream Team Television ar gyfer S4C

Rhannu |