Teledu

RSS Icon
12 Medi 2016

Rhys Meirion yn canu deuawdau annisgwyl mewn cyfres newydd

Yn y gyfres newydd Deuawdau Rhys Meirion sy'n dechrau nos Wener, 23 Medi ar S4C, cewch ddisgwyl yr annisgwyl wrth i'r tenor Rhys Meirion ddod i adnabod rhai o brif gantorion Cymru gan ganu deuawdau gyda nhw.

Bydd hi'n dipyn o her i Rhys a'i westeion wrth i'r canwr clasurol ganu deuawdau gydag unigolion o wahanol gefndiroedd cerddorol o jazz i fiwsig gwerin a phop.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y canwr opera a chlasurol byd-enwog yn mynd ar daith ledled Cymru i ddod i adnabod rhai o'n hartistiaid cerddorol mwyaf poblogaidd.

Yn rhaglen gynta'r gyfres, bydd Rhys yn mynd â ni ar daith i Gaerdydd i gartref y canwr a'r cyfansoddwr Huw Chiswell ac yn rhoi tro ar ganu un o glasuron Huw, Rhoddion Prin ymhlith caneuon eraill.

"Pan mae rhywun yn mynd drwy amser anodd, fel y mae pawb yn gwneud mewn bywyd, mae cerddoriaeth yn gallu helpu gymaint. Pan dwi wedi gwrando ar y gân Rhoddion Prin yn y gorffennol, mae'r geiriau, yn enwedig y pennill olaf yna, yn emosiynol tu hwnt," meddai Rhys Meirion, sy'n wreiddiol o Dremadog ond bellach yn byw yn Rhuthun gyda'i wraig a thri o blant.

"Efo colli fy chwaer a cholli Mam dros y blynyddoedd diwethaf, yn aml iawn mae rhywun yn cael cryfder i ddod drwyddi drwy'r plant. Ro'n i'n medru uniaethu llawer iawn efo'r gân yna a'r geiriau."

Yn y bennod gyntaf, byddwn hefyd yn dychwelyd i Gwmtawe, man geni Huw Chiswell a lleoliad sydd wedi ysbrydoli nifer fawr o'i ganeuon.

Cawn ddysgu mwy am ei fagwraeth wrth sgwrsio gyda'i fam a'r cyn-bianydd clasurol, Caryl Chiswell, yng Ngodre'r Graig, Ystalyfera ac wrth ymweld â'r capel lle ysbrydolwyd Huw i ddechrau canu.

"Roedd un o'r caneuon ddewisais i ganu efo Huw Chiswell yn dipyn o sialens!

Yn gyntaf, mae Gira Con Me yn gân glasurol - genre hollol wahanol i beth mae Huw wedi arfer â chanu, ac wrth gwrs, mae'r geiriau i gyd yn Eidaleg.

"Fe ddaeth yr iaith yn ddigon cyflym i Huw erbyn y diwedd ond mi roedd hi'n dipyn o sialens rhaid dweud - ond dwi'n falch iawn o'r ddeuawd honno."

Yn ystod y gyfres bydd Rhys Meirion yn teithio ledled Cymru ac i fannau annisgwyl o gwmpas y byd i gwrdd a chydweithio ag artistiaid amrywiol gan gynnwys yr eicon Iris Williams, Wil Tân a Bryn Fôn.

Bydd Rhys hefyd yn treulio amser yn y stiwdio recordio yn paratoi deuawdau cwbl newydd ac unigryw – un darn o'i ddewis ef a'r llall o ddewis y gwestai.

Bydd cryno ddisg gyda detholiad o ddeuawdau'r gyfres yn cael ei ryddhau yn Rhagfyr 2016.

Deuawdau Rhys Meirion

Nos Wener 23 Medi 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |