Teledu

RSS Icon
12 Medi 2016

Jamie Roberts yn gobeithio y bydd cyfres yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddygon

Mae meddyg a seren rygbi Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd cyfres ddogfen newydd ar S4C yn “ysbrydoli’r” genhedlaeth nesaf o feddygon yng Nghymru.

Yn dechrau ar nos Fawrth 13 Medi, bydd y gyfres ddogfen Doctoriaid Yfory yn dilyn grŵp o fyfyrwyr Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd am 12 mis mewn ysbytai a meddygfeydd teulu ledled Cymru.

Mae’r gyfres yn edrych ar sut mae’r Ysgol Meddygaeth flaenllaw yn paratoi darpar feddygon ar gyfer gofynion anferth y Gwasanaeth Iechyd.

Mae recriwtio doctoriaid yn broblem fawr yng Nghymru ar hyn o bryd ond mae Jamie Roberts, sy’n gyn myfyriwr yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn gobeithio y bydd y gyfres yn denu rhagor i’r proffesiwn ac mae ganddo atgofion melys o’i gyfnod yn astudio yng Nghaerdydd.

“Nes i wir fwynhau fy amser fel myfyriwr meddygol yng Nghaerdydd,” meddai Jamie, aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt yn dilyn ei gyfnod yn y Brifddinas.

“Roedd 'na gyfnodau heriol, ond roedd y cyfle i allu ymarfer meddygaeth ledled Cymru ac i gael cyswllt gyda chleifion go iawn trwy gydol y cwrs yn rhan mor bwysig o fy natblygiad fel myfyriwr. Ac fe wnaeth yr holl brofiadau fy mharatoi at raddio fel doctor cymwysedig ac ar gyfer gweithio mewn amgylchedd clinigol.”

Mae’r myfyrwyr meddygaeth Cymraeg eu hiaith sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn amrywio rhwng 18 a 23 mlwydd oed ac yn dod o wahanol gefndiroedd ac ardaloedd o Gymru, ond mae eu hymroddiad at feddygaeth yn eu huno ac mae hynny’n hynod bwysig i ysbrydoli meddygon y dyfodol yn ôl Jamie.

“Gyda phroblem recriwtio doctoriaid yng Nghymru, gobeithio y bydd y gyfres yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried gyrfa mewn Meddygaeth,” ychwanegodd Jamie.

Mae'r gyfres saith-rhan, a ffilmiwyd mewn partneriaeth ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, wedi cael ei ffilmio mewn theatrau llawdriniaeth, meddygfeydd, wardiau ysbytai a'r cyfleusterau hyfforddi clinigol o’r radd flaenaf ar Gampws Ysbyty’r Brifysgol.

Meddai Dr Awen Iorwerth, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae lles y claf yn ganolog i’r holl brofiad o ddysgu yma yng Nghaerdydd, ac felly y dylai fod drwy gydol gyrfaoedd y meddygon.

"Ein nod yw trawsnewid pobl ifanc sy'n gwneud yn dda mewn arholiadau yn feddygon ifanc, ymroddedig, cydymdeimladol a hapus.

"Mae Cymru yn ficrocosm o lawer o gymdeithasau ac mae ein gwlad ni’n ystafell ddosbarth wych ar gyfer addysgu ein myfyrwyr am bob agwedd ar feddygaeth a hefyd yn rhoi blas iddyn nhw ar y gwahanol ffyrdd o fyw y mae’r gwaith yn ei gynnig iddyn nhw."

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Llinos Griffin-Williams bod cydweithrediad parod staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn allweddol er mwyn cael ffilmio’r myfyrwyr, cleifion a’r staff a dilyn eu datblygiad fel meddygon ymroddedig a galluog.

Dywedodd Llinos Griffin-Williams o Green Bay Media: "Mae'r gyfres yn bwrw golwg unigryw y tu ôl i'r llenni ar ysgol feddygol arloesol sy’n helpu i ddatblygu myfyrwyr ifanc dibrofiad yn feddygon, llawfeddygon ac ymgynghorwyr y dyfodol.

"O ddiogelwch yr ystafell ddosbarth, i realiti caled yr Uned Ddamweiniau ac Argyfwng, rydym yn edrych ar yr heriau emosiynol, meddyliol a chorfforol sy'n wynebu’r myfyrwyr hyn, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer rhai o swyddi mwyaf heriol ein gwlad."

Doctoriaid Yfory

Nos Fawrth 13 Medi 8.25, S4C

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: ar gael ar-lein ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a phlatfformau eraill

Cynhyrchiad Green Bay ar gyfer S4C

Rhannu |