Teledu
Pobol y Cŵn - Stori Gillian Elisa â thro yn ei chynffon
Efallai mai'r ci yw ffrind gorau dyn - ond beth am y perchnogion cŵn sy'n dwlu ar eu hownds ffyddlon?
A ydynt yn gall i fod yn llawen yng nghwmni'n ffrindiau pedair pawen neu'n mopio gormod wrth weld cynffon yn siglo a thafod yn llyfu?
Mewn rhaglen dwymgalon, mae'r actor adnabyddus a seren y West End, Gillian Elisa yn ceisio deall pam ein bod yn caru ein cŵn anwes cymaint.
Ond mae ei chwest personol i gwrdd â chymaint o garwyr a pherchnogion cŵn ag sy'n bosibl yn y rhaglen Pobol y Cŵn yn troi'n daith emosiynol iawn lle mae'n wynebu profiadau anodd, annisgwyl.
Byddwn yn gweld sut dro fydd yn y cwt yn y rhaglen nos Sul, 18 Medi.
"Rwy' wrth fy modd gydag anifeiliaid, ond mae rhywbeth arbennig am gŵn.
"Mae fy nghŵn fel teulu i mi ac ni alla i ddychmygu bywyd hebddyn nhw.
"Rydyn ni'r Cymry yn enwog am ein cariad at gŵn; mae cŵn wedi siapio ein tiroedd ni ac wedi cynhesu ein calonnau ers cyn cof," meddai Gillian, sydd wedi serennu yn y West End yn y sioe gerdd Billy Elliot.
"Rydyn ni fel perchnogion cŵn yn amrywio o ran maint a siâp yn union fel ein cŵn ac rwy' am wybod pam mae cŵn yn gafael yn ein calonnau gymaint," ychwanega'r actor, sydd wedi bod yn hoff o gŵn ers ei phlentyndod yn nhref farchnad wledig Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.
A hithau'n un o sêr y ddrama ddyddiol Pobol y Cwm (ie, 'Cwm' nid 'Cŵn'!) ar S4C am flynyddoedd lawer fel y cymeriad Sabrina, mae'r actor o Gaerdydd wedi mwynhau bod yn llygad y cyhoedd yn Llundain.
Wrth inni ymuno â hi yn Croydon, mae hi'n mwynhau bywyd ym mhrifddinas Lloegr yng nghwmni ei dau gi anwes, Jessie a Bessie.
Mae ei chwest i ddarganfod pam mae pobol yn caru eu cŵn yn ei denu yn ôl i Gymru, ac yn arbennig at ei dref enedigol Llanbedr Pont Steffan lle mae hi'n cwrdd â ffrindiau a theulu llawn bwrlwm am y bodau blewog.
Ar y ffordd mae'n cyfarfod myrdd o berchnogion cŵn lliwgar, fel y cyfansoddwr Ian Michael o Gaerdydd sy'n galaru am ei gi Chico sydd newydd drigo; cyn Miss Wales Sara Manchipp o Faglan ger Port Talbot sy'n caru ei chi Daisy; ffrindiau a chleientiaid mewn salon cŵn yn Llandeilo, hen ffrind ysgol a chystadleuydd sioe gŵn, Heulwen o Gwmtwrch Uchaf, Cwmtawe a'r digrifwr a'r ffermwr Ifan Gruffudd gyda'i gi defaid a Brenin Siarl Cavalier, Benji.
Pobol y Cŵn
Nos Sul 18 Medi 8.00, S4C
Hefyd nos Wener 23 Medi 11.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Barefoot Rascals ar gyfer S4C