Teledu

RSS Icon
23 Mehefin 2011

Pleidlais Fferm Ffactor

Mae S4C yn gwahodd y cyhoedd i ddewis y deg cystadleuydd i ymgeisio yn y gyfres Fferm Ffactor, a fydd yn cael ei darlledu’n ddiweddarach eleni.

Mae deuddeg cystadleuydd o bob oed ac o bob cwr o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth deledu - ond bydd dau yn cael eu bwrw allan mewn digwyddiad byw yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Bydd canlyniadau'r bleidlais yn cael eu cyhoeddi yn ystod Sioe Frenhinol Cymru mewn digwyddiad byw Fferm Ffactor yn y Cylch Gwartheg ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf am 16:30.

Bydd y tri ffermwr anlwcus fydd yn derbyn y nifer leiaf o bleidleisiau yn gorfod brwydro am y lle terfynol mewn tasg yn y Cylch Gwartheg o flaen cynulleidfa fyw. Dim ond lle i ddeg fydd yn y gystadleuaeth pan fydd yn dychwelyd i S4C yn ystod yr hydref.

Lansiwyd pleidlais Fferm Ffactor 2011 S4C ddydd Mawrth, 22 Mehefin, a bydd y bleidlais yn agored tan 12:00 ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf, ychydig oriau cyn i ganlyniadau'r bleidlais gael eu cyhoeddi.

Gall y cyhoedd bleidleisio am eu hoff gystadleuydd naill ai drwy'r we neu drwy'r post. Gall pleidleiswyr ymweld â safle Facebook Fferm Ffactor a phleidleisio dros eu hoff ffermwr, neu mae modd postio’u dewis i Fferm Ffactor, Cwmni Da, Lôn Parc, Caernarfon, Gwynedd LL55 2HH. Mae manylion llawn ar gael ar wefan S4C, s4c.co.uk/ffermffactor.

Gall ymwelwyr i Sioe Frenhinol Cymru ymweld â Phafiliwn S4C ar faes y sioe i fwrw eu pleidlais tan 12:00 ar ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf.

Mae'r deuddeg ffarmwr ar restr fer Fferm Ffactor yn cynnwys deg dyn a dwy fenyw. Am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth, gwelwn ŵr a gwraig yn cystadlu am yr un wobr - Iestyn Tegid Davies a Marian Davies o Drawsfynydd.

Debs Phillips o Grymych, sy’n fam i ddau yw’r cystadleuydd benywaidd arall. Bydd hi’n mynd ben ben â Heilin Huw Thomas, 24 o Landysul, Malcolm Davies, 37, ffermwr llaeth o Ddinas, ger Pwllheli, Aled Huw Roberts, rheolwr fferm o bentre’ Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, Dafydd Evans, 27, o Lanwrin ger Machynlleth sy’n beiriannydd a Brian Bown, 41 o Lannerchymedd, Ynys Môn sy’n ffermwr cig eidion a defaid.

Yr ymgeiswyr eraill yw’r ffermwr llaeth Geraint Thomas, 36, o Langennech ger Llanelli, Rhodri Evans, sy’n ffermwr 35 mlwydd oed o’r Parc, Y Bala, a'r ddau ieuengaf i gystadlu yw Sam Carey, 22, o Nanhyfer, gogledd Sir Benfro a Rheinallt Davies, 21, o Lanwrin ger Machynlleth.

"Bydd pob un o'r deuddeg angen yr holl gefnogaeth y gallant ei gael gan eu ffrindiau a'u teuluoedd i wneud yn siŵr eu bod yn llwyddo i gyrraedd y deg terfynol. Wedi hynny mae’r cwbl yn nwylo’r beirniaid, "eglura Daloni Metcalfe sy'n cyflwyno’r gyfres.

"Yn anffodus, bydd dau ffermwr anlwcus yn gorfod mynd adre cyn i'r gystadleuaeth go iawn ddechrau. Bydd yn brofiad llawn tensiwn i bob un o'r deuddeg; bydd neb yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ond mae hynny'n rhan o hwyl Fferm Ffactor. "

Bydd rhaglen deledu boblogaidd S4C yn cyrraedd ein sgriniau ar gyfer ei thrydedd gyfres yn yr hydref. Bydd gwylwyr yn medru dilyn y digwyddiadau wythnosol wrth i’r deg ffermwr frwydro mewn cyfres o dasgau amaethyddol yn eu hymgais i ennill Isuzu Rodeo Denver 4x4 newydd sbon.

Bydd y deg cystadleuydd sy’n weddill yn wynebu cyfres o dasgau sy’n gysylltiedig ag amaeth a heriau ehangach gydol y gyfres, ond dim ond y rhai sy'n llwyddo i greu argraff ar y beirniaid swyddogol, Yr Athro Wynne Jones ac Aled Rees ffermwr, fydd yn cael aros yn y gystadleuaeth o wythnos i wythnos.

"Mae'n anrhydedd fawr i gael y cynnig i fod yn feirniad ochr yn ochr â’r Athro Wynne Jones, ac rydw i'n edrych ymlaen at yr her," meddai Aled Rees a enillodd deitl Fferm Ffactor yn 2009 ac sy’n ymgymryd â’r her o fod yn feirniad am y tro cyntaf eleni.

"Bydd y Sioe Frenhinol Cymru yn achlysur gwych i lansio’r drydedd gyfres, ond bydd cyhoedd Cymru yn helpu penderfynu pwy sy'n symud i’r rownd nesaf y tro hwn," ychwanegodd.

Yn 2010, enillwyd teitl Fferm Ffactor a’r Isuzu gan Teifi Jenkins, ffermwr o Feulah, ac yn ail agos oedd Iwan Price o Gerrigydrudion a Phillip Reed o Aberteifi yn y trydydd safle.

Eleni, bydd arlwy newydd sbon o ffermwyr o bob oed, ac o bob rhan o Gymru yn gobeithio dilyn eu hesiampl a chyrraedd y tri terfynol.

Llun: Enillydd 2010 Teifi Jenkins

Rhannu |