Teledu

RSS Icon
16 Awst 2016

Holl amrywiaeth ryfeddol y byd moduro yng Nghymru

Mae'r byd chwaraeon moduro yng Nghymru yn un eang, yn llawn amrywiaeth ryfeddol – fel y byddwn ni'n darganfod mewn rhifyn arbennig o'r gyfres Ralïo+ ar S4C.

O dreialon beiciau modur i rasus cerbydau 4x4 pwerus, bydd y cyflwynwyr Emyr Penlan a Lowri Morgan yn edrych ar nifer o gystadlaethau moduro.

Yn y rhaglen ar nos Iau, 18 Awst, byddan nhw'n cwrdd â rhai o'r Cymry sy'n serennu yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Un o'r rhain ydy'r beiciwr treialon modur o Flaenau Ffestiniog, Iwan Roberts.

Mae'r hogyn 19 oed wedi creu argraff fawr o fewn y gamp wrth iddo gystadlu'n frwd am safleoedd yng Nghwpan y Byd Treialon FIM.

Mae Iwan, sy'n reidio dros dîm Beta UK TTT ac eisoes yn bencampwr Cymru, yn y pedwerydd safle ar hyn o bryd, gydag un ras yn weddill.

Ond dim ond bwlch o chwe phwynt sydd rhyngddo fo a'r tri reidiwr sydd uwch ei ben.

"Rwy'n credu bod gan Iwan obaith o fod yn bencampwr y byd yn y dyfodol," meddai Emyr.

"Mae'r pethau mae e'n gallu eu gwneud ar gefn beic yn anhygoel.

"Mae'n un o'r campau anodda' yn y byd moduro; maen nhw'n gorfod neidio dros rwystrau enfawr a chadw balans wrth sgrialu lawr wyneb creigiau serth."

Bydd y rhaglen hefyd yn dilyn y Ras Ddeuddydd Enduro Cymru, sef y ras beiciau modur fwyaf yng Nghymru, lle mae dros 500 o gystadleuwyr yn rasio'u beiciau modur ar lonydd troellog o amgylch Llandrindod.

"Fe wnes i gymryd rhan yn yr Enduro ddwy flynedd yn ôl, a bron iddo fy lladd i!

"Roedd e mor anodd, penderfynais roi'r helmet heibio am byth wedi hynny! Mae gen i'r creithiau i brofi hynny hefyd.

"Dwi'n edrych ymlaen at eu gwylio mewn lle mwy cyfforddus a diogel eleni!" eglurodd Emyr, sydd yn byw yng Nghapel Seion ger Drefach, Sir Gaerfyrddin, ac yn wreiddiol o Aberteifi.

Bydd criw Ralïo+ yn cyflwyno'r ras Allisport Hill Rally yn Walters Arena, ger Glyn-nedd.

Yn y math yma o rasio traws gwlad, mae timau'n addasu ceir 4x4 a'u gwneud nhw mor bwerus ag sy'n bosib.

"Mae'r ceir yn yr Hill Rally yn ddychrynllyd; cerbydau enfawr, pwerus, sydd wedi cael eu haddasu i ymdopi gydag unrhyw amodau ar y ddaear.

"Y math yma o geir welwch chi'n rasio yn yr anialwch yn y Dakar Rally.

"Mae'r ras yma'n wir werth ei gweld."

Ralïo+                                       

Nos Iau 18 Awst, 9.30 S4C
Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill 
Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

Rhannu |