Teledu
Cyfres yn dathlu rhai o gampau cefn gwlad Cymru
Bydd cyfres newydd ar S4C yn rhoi gwedd gyfoes ar gampau gwledig traddodiadol hafaidd, chwyslyd a bythol boblogaidd.
Bydd Chwys, a ddarlledir dros dair noson yn olynol (Mercher, 23 Awst - Gwener, 25 Awst), yn canolbwyntio ar un o dair camp wahanol ym mhob pennod; cystadleuaeth i fwyellwyr, neu lumberjacks, tynnu rhaff a chneifio.
Mae'r rhaglenni wedi eu ffilmio mewn digwyddiadau cenedlaethol ledled Cymru; o Gaerwys yn Sir Fflint, i Gorwen yn Sir Ddinbych, i dre Gaerfyrddin, a bydd cyflwynydd gwahanol ymhob pennod - Sarra Elgan Easterby, Heledd Cynwal ac Elen Pencwm.
Heledd Cynwal fydd yn cyflwyno'r ail raglen sy'n dilyn hynt a helynt criw tynnu rhaff. Cawn ddilyn clwb Llanboidy, Sir Gâr a enillodd Bencampwriaeth y Byd ym 1977, wrth iddyn nhw gystadlu yn y Truckfest yng Nghaerfyrddin.
Meddai Heledd, sydd byw ar gyrion Llandeilo: "Roedd e'n agoriad llygad i mi.
"Mae'n fwy na thynnu rhaff; yn ogystal â'r elfen gystadleuol, mae 'na rywbeth cymdeithasol iawn am gymryd rhan - ac mae cymaint o hanes yn perthyn i glwb fel Llanboidy hefyd - fuon nhw'n bencampwyr y byd yn y '70au!
"Mae'r gwaith o dynnu'r rhaff mor gorfforol ac mae 'na deimlad cryf o berthyn i dîm. Mae cymunedau a phentrefi yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac mae hynny'n beth braf i'w weld."
Sarra Elgan Easterby fydd yn cyflwyno rhaglen gyntaf Chwys fydd yn cynnwys yr ornest eithaf i lumberjacks gorau Ewrop - Pencampwriaeth y 5 Prawf yng Ngŵyl Coed Cymru, Caerwys, Sir y Fflint. Tybed a all seren Bwyellwyr Clwyd, Elgan Pugh, wneud digon ar draws y pum disgyblaeth wahanol i amddiffyn ei deitl?
Mae'r rhaglen olaf yn cynnwys Gŵyl Cneifio Corwen - cymal olaf Coron Driphlyg Cymdeithas Cneifio Cymru. Dyma wythnos o gystadlu epig ddechreuodd yn Llambed, aeth ymlaen i'r Sioe Fawr a gorffen ar Stad y Rhug, Corwen. Elen Pencwm sy'n cyflwyno'r Pencampwriaethau Cenedlaethol ac Agored ynghyd â'r gemau prawf hollbwysig rhwng Cymru a Seland Newydd.
"Mae Chwys yn rhoi sylw i'r chwaraeon rwyt ti'n arfer eu gweld yn y Sioe Frenhinol," ychwanegodd Heledd.
"Mae'n dod â chwaraeon cefn gwlad i sylw pawb ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Mae cymaint o ddilyniant i'r math yma o gampau ac mae hynny'n ffantastig.
"Mae'r awyrgylch yn danbaid ac mae 'na lawer iawn o gyffro pan mae'r dynion a'r merched cryf a chyhyrog yma'n dod i gystadlu."
Chwys
Nos Fercher, Iau a Gwener 24, 25, 26 Awst 8.25, S4C
Isdeitlau Saesneg
Hefyd ar-lein ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Slam Media ar gyfer S4C