Teledu

RSS Icon
23 Mehefin 2011

Criw Ffermio ar daith i gwrdd â gwylwyr S4C

Mae tîm cyflwyno a chynhyrchu’r gyfres boblogaidd Ffermio yn paratoi ar gyfer taith ledled Cymru i gwrdd â gwylwyr S4C.

 

Fe fydd y daith yn cychwyn ar Ynys Môn ddydd Llun, 4 Gorffennaf gan hefyd ymweld â Chlawddnewydd, Glantwymyn, Pontsenni, Llandeilo a Sanclêr dros gyfnod o wythnos.

 

Ar y noson gyntaf a’r olaf fe fydd un o gyflwynwyr Ffermio yn cadeirio trafodaeth ac yn gwahodd cwestiynau gan y cyhoedd ar gyfer panel o wynebau cyfarwydd o’r byd amaeth yn yr ardal.

 

Bydd yna gyfle i siarad gydag aelodau o dîm cynhyrchu Ffermio o gwmni Telesgop. Maen nhw hefyd yn awyddus i’r cyhoedd ddod â hen luniau o’r byd amaeth a chefn gwlad gyda nhw i’r noson.

 

Mae’r noson gyntaf o dan arweiniad y cyflwynydd Daloni Metcalfe yng Nghlwb Wellman’s yn Llangefni ac yn rhan o weithgareddau ymgyrch Calon Cenedl S4C ar Ynys Môn ddechrau Gorffennaf pan fydd S4C yn tynnu sylw at raglenni a gweithgaredd y Sianel.

 

Fe fydd tîm Ffermio wedyn yn ymweld â Neuadd Cae Cymro, Clawddnewydd ar 5 Gorffennaf, Neuadd Glantwymyn ar 6 Gorffennaf, Whitehouse Country Inn, Pontsenni ger Aberhonddu ar 7 Gorffennaf a’r Neuadd Ddinesig Llandeilo ar 11 Gorffennaf.

 

Bydd y daith wedyn yn dod i ben nos Fawrth 12 Gorffennaf yn Ysgol Griffith Jones yn Sanclêr lle bydd Alun Elidyr yn cadeirio noson o holi panel o wynebau cyfarwydd.

 

Fe fydd cyflwynydd Ffermio Meinir Jones yn bresennol yn rhai o’r nosweithiau.

 

Meddai Meinir: “Rydyn ni gyd yn edrych ymlaen at fynd ar y daith a chwrdd â gwylwyr y gyfres. Y gwylwyr sydd wrth galon straeon Ffermio ac rydyn am i chi gynnig syniadau ar gyfer y dyfodol, rhoi eich barn, rhannu straeon, dod â hen luniau a chael clonc.”

 

Ychwanega Meinir: “Mae croeso cynnes i bawb – a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael i’r rhai sydd ddim yn deall Cymraeg.”

 

Dyma fanylion y daith yn llawn.

 

4 Gorffennaf 2011

Clwb y Wellman’s, Stad Ddiwydiannol, Llangefni , LL77 7JA

19.30

 

5 Gorffennaf 2011

Canolfan Cae Cymro, Clawddnewydd, Rhuthun, LL15 2ND

19.00 – 20.00

 

6 Gorffennaf 2011

Neuadd Glantwymyn Glantwymyn Machynlleth Powys SY20 8LX

19.00 – 20.00

 

7 Gorffennaf 2011

The Whitehouse Country Inn, Pontsenni, Aberhonddu, LD3 8RP

19.00 – 20.00

 

11 Gorffennaf 2011

Neuadd Ddinesig Llandeilo, Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW

19.00 – 20.00

 

12 Gorffennaf 2011

Ysgol Gynradd Griffith Jones, Sanclêr, Caerfyrddin, SA33 4BT

19.30

 

Rhannu |