Teledu

RSS Icon
05 Awst 2016

Egluro'r heriau sy'n wynebu ffermwyr Cymru yn dilyn pleidlais Brexit

Mae'r ffermwr a'r cyflwynydd Alun Elidyr yn credu bod gan y gyfres Ffermio ran allweddol i'w chwarae wrth egluro'r heriau sy'n wynebu ffermwyr Cymru yn dilyn pleidlais Brexit.

Bydd Alun Elidyr a Daloni Metcalfe yn ôl i gyflwyno'r gyfres amaeth a chefn gwlad o nos Lun, 15 Awst ar ôl hoe fach dros yr haf. Mae aelod arall y tîm cyflwyno, Meinir Howells, yn hynod brysur gartre' am gyfnod ar ôl iddi hi a'i gŵr, Gary, gael merch fach, Sioned.   

Meddai Alun, sy'n ffermwr defaid a gwartheg yn ardal Rhydymain, Dolgellau: "Yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer fawr o gwestiynau yn wynebu'r diwydiant amaeth yng Nghymru a dim llawer o atebion ar hyn o bryd.

"Mae gan y rhaglen Ffermio ran bwysig i'w chwarae yn egluro wrth y cyhoedd y newidiadau fydd yn wynebu amaeth yng Nghymru.

"Mae straeon newyddion bron bob dydd yn codi'r cwestiwn o ble y bydd y cyllid yn dod.

"Gyda ffermwyr yn dibynnu cymaint ar arian cymorthdaliadau cynhyrchu a chadwraeth o dan y Polisi Amaeth Cyffredinol - hyd at 80 y cant o incwm rhai ffermydd - mae'n rhaid inni wybod ar fyrder beth yw'r sialensiau sy'n ein hwynebu.

"Ar ben hynny, mae yna bryder o le y daw'r gweithwyr amaeth, gyda dros 65 y cant o weithwyr ffermydd a stadau'r DU yn dod o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd bresennol."

Fe fydd y gyfres yn dechrau yn Sioe Amaethyddol Bro Gŵyr lle mae'r dirwedd a'r cynnyrch yn wahanol iawn i'r hyn sydd ar fferm Alun ym Mharc Cenedlaethau Eryri.

"Mae'r sioe arbennig hon yn adlewyrchu cymaint yw'r amrywiaeth o stoc a chynnyrch sydd yng Nghymru. Ond yr un yw'r sialens i bob fferm a sector - pwysleisio o le mae'r cynnyrch yn dod, pa mor uchel yw'r ansawdd a sicrhau bod y negeseuon hyn yn cyrraedd y cwsmer."

Yn ogystal, bydd y rhaglen yn edrych ar y defnydd o feddyginiaethau gwrthfiotig i ddiogelu anifeiliaid rhag clefydau ac yn siarad â milfeddygon a ffermwyr. Bydd eitem am y potensial o ddefnyddio llaeth heb ei basteureiddio i gynhyrchu caws - pwnc sy'n agos iawn at galon y ffermwr 56 oed ac yntau'n cofio godro gyda'i dad yn hogyn bach a mynd â'r llaeth crai i'w fam gael gwneud menyn.

Mae hi wedi bod yn haf heriol ar y fferm i Alun, gan ei bod hi mor wlyb. Ond mae wedi cael cyfle i actio eto wrth gael rhan fach yn y gyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland.

"Roedd yn ddifyr iawn bod yn rhan o gynhyrchiad drama deledu sydd wedi rhoi Cymru ar y map ac yn portreadu'r dirwedd yng Ngheredigion mewn ffordd mor drawiadol," meddai Alun. "Mae'r gyfres yn adlewyrchu'r llwyddiant diweddar mae pobl, cwmnïau a sefydliadau Cymru wedi cael wrth hyrwyddo'r wlad ac mae bwyd a chynnyrch ffarm yn chwarae rhan fawr wrth roi Cymru ar fap y byd, yn ogystal â'r tîm pêl-droed wrth gwrs!"

Ffermio

Nos Lun 15 Awst 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar gael ar alw ar S4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Telesgop ar gyfer S4C

Rhannu |