Teledu

RSS Icon
02 Awst 2016

Sêr ifanc rygbi Cymru yn wynebu her yn Ne Affrica

Mae maswr y Scarlets, Billy McBryde, yn credu y bydd tîm Cymru Dan 18 yn wynebu her anoddaf eu gyrfaoedd pan fyddan nhw'n teithio i Dde Affrica i chwarae yn y Gyfres Ryngwladol Dan 19.

Roedd McBryde yn aelod o dîm Cymru gafodd eu trechu 42-11 gan Dde Affrica yn y gyfres y llynedd, cyn iddyn nhw ennill yn erbyn Yr Eidal a sicrhau gêm gyfartal 20-20 yn erbyn tîm De Affrica A yn eu gêm olaf.

Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau o dair gêm Cymru eleni a bydd McBryde yn ymuno â Wyn Gruffydd i sylwebu ar y gêm gyntaf yn erbyn tîm De Affrica Dan 18 ddydd Gwener, 12 Awst. Morgan Isaac yw'r cyflwynydd.

Dywedodd McBryde, sy'n byw yn y Tymbl: "Roedd e'n brawf mawr inni fel chwaraewyr wrth fynd i Dde Affrica y llynedd.

"Wnaeth y profiad ddysgu gwersi i lawer ohonom ni achos doedden ni erioed o’r blaen wedi chwarae gêm mor gyflym a dwys.

"Roedd bois De Affrica yn gorfforol iawn hefyd ac, a bod yn onest, fe gawsom wers go iawn ganddyn nhw.

"Ond roedd y cwbl yn brofiad arbennig sydd wedi helpu fi i baratoi at y lefel broffesiynol."

Ar ôl y daith i De Affrica, cafodd McBryde ei ddewis ar gyfer tîm Dan 20 Cymru, ac fe chwaraeodd y maswr rôl gadarnhaol wrth i'r tîm ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni cyn mynd ymlaen i chwarae ym Mhencampwriaeth Dan 20 y Byd ym Manceinion.

"Pan mae pobl yn gofyn i mi pa gêm yw'r un galetaf dwi 'di chwarae, dw i'n dweud y gêm yn erbyn Seland Newydd yng Nghwpan Rygbi'r Byd Dan 20 eleni.

"Ond roedd y gêm yn erbyn De Affrica i'r tîm Dan 18 y llynedd yn ail agos.

"Dydyn nhw ddim yn unig yn gryf yn gorfforol, ond maen nhw'n gryf o ran sgiliau hefyd.

"Maen nhw'n dweud bod y gemau Dan 18 yn gemau cyfeillgar, ond dydyn nhw ddim! Mae pawb eisiau ennill."

Bydd S4C hefyd yn dangos uchafbwyntiau rowndiau terfynol cyfres Saith Bob Ochr Singha, nos Lun, 8 Awst. Wedi iddyn nhw hawlio'r ddau le i dimau o Gymru yn rowndiau rhagbrofol rhanbarthau Cymru, bydd y Gweilch a'r Gleision yn herio'r goreuon o Uwch Gynghrair Aviva Lloegr yn y rowndiau terfynol yn y Ricoh Arena, Coventry.

Rygbi 7 Bob Ochr Singha: Y Ffeinal            

Nos Lun 8 Awst 9.30, S4C
Cynhyrchiad Perform ar gyfer S4C

Cymru dan 18 yn Ne Affrica 2016                 

12, 16 a 20 Awst 9.30, S4C   

Gyda sylwebaeth Saesneg ar gael             
Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill 

Cynhyrchiad SMS Cymru ar gyfer S4C

Llun: Billy McBryde

Rhannu |