Teledu

RSS Icon
16 Mehefin 2011

Dathlu tafodiaith Gogledd Sir Benfro

Wes, wedd yn wer, roces,.. Does na’r un dafodiaith fwy hynod nag un gogledd Sir Benfro.

Ac yn y drydedd raglen yn y gyfres Ar Lafar ar S4C nos Lun, 20 Mehefin, fe fydd y bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn ei hel hi am Sir Benfro i ddarganfod mwy am y dafodiaith a’r acen.

Yn Noson ar Lafar, yn hwyrach yr un noson bydd yr actor Iwan John a’r cyflwynydd Mari Grug yn ein cyflwyno i dafodiaith gyfoethog y fro drwy ddarlleniadau o waith W.R. Evans, Hefin Wyn a W Rhys Nicholas ac hefyd ffilmiau archif am facsu a chanu pwnc.

Yn y rhaglen Ar Lafar bydd yr arbenigwraig Gwenllian Awbery yn egluro sut mae’r dafodiaith yn amrywio o un rhan o’r sir i'r llall ran arall, gyda de Seisnig y sir a siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin i gyd yn dylanwadu arni.

Yna bydd Ifor yn profi'r man wahaniaethau hyn dros ei hun, wrth deithio i'r gorllewin i gwrdd â Chôr Bois y Wlad cyn troi at ardal Crymych yng nghwmni'r actor Iwan John.

 

Yno mae Iwan yn ei gyflwyno i'w wncwl, Peter John, criw Garej Midway Motors a Cerwyn Davies, sy'n ffermio ym Mynachlog Ddu. Bydd yn dysgu am 'danwenta', beth yw'r 'mwnci'n gwasgu' a sut mae golchi bysus!

Mae Ifor hefyd yn mynd i bentre’r Mot (New Moat) sydd ar y Landsker, y ffin rhwng y gogledd Cymraeg a’r de Saesneg ei hiaith.

Fe wnaeth yr arbenigwr iaith, Dr Christine Jones ymchwil i iaith pobol y pentre ugain mlynedd yn ôl. Yng nghwmni Ifor, mae’n cwrdd eto â nifer o’r trigolion a fu’n rhan o’r ymchwil wreiddiol..

Mae Ifor hefyd yn cwrdd ag aelodau Clwb Ffermwyr Ifainc Abergwaun i weld sut mae’r dafodiaith yn dal ei thir ymhlith pobl ifanc ac yn gweld sut mae’r iaith yn newid wrth groesi’r ffin iAberteifi.

Ar Lafar
Nos Lun 20 Mehefin 21:00, S4C
Noson Ar Lafar
Nos Lun 20 Mehefin 22:00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

wêr – oer
roces – merch
macyn – hances
pentigili – yr holl ffordd
cadno o ddiwrnod – diwrnod cyfnewidiol
dwrgi o ddiwrnod – diwrnod gwlyb
mae'r mwnci yn gwasgu – ddim yn teimlo’n dda

Rhannu |