Teledu

RSS Icon
16 Mehefin 2011

Tywallt y diferyn ola' o'r Tebot Piws

Bydd S4C yn dathlu cyfraniad un o'r bandiau pop pwysica' a mwya' dylanwadol yn hanes y byd roc Cymraeg mewn dwy raglen arbennig ar nos Sadwrn 18 Mehefin.

Fe chwaraeodd y grŵp Y Tebot Piws eu gig ffarwel ola' ar nos Sadwrn, 28 Mai yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth - a hynny dros 40 mlynedd ar ôl ffurfio’n gyntaf ym 1968.

Bydd dwy raglen arbennig ar S4C yn dathlu cyfraniad y band poblogaidd – rhaglen ddogfen Gwreiddiau Roc: Y Tebot Piws ac yna i ddilyn uchafbwyntiau’r cyngerdd ola' ym Mhenrhyndeudraeth yn y rhaglen Ie, Ie, ‘Na Fe: Cyngerdd Olaf Y Tebot Piws.

Fe ddaeth Dewi 'Pws' Morris, Emyr Huws Jones, Alun 'Sbardun' Huws a Stan Morgan-Jones at ei gilydd pan oeddent yn fyfyrwyr coleg a thros bedair blynedd, rhwng 1968 a 1972, fe wanethon nhw ryddhau pedair EP boblogaidd.

Mae rhai o’r caneuon a ryddhawyd y pryd hynny fel 'Lleucu Llwyd', 'Mae Rhywun Wedi Dwyn Fy Nhrwyn' a 'Rwy’n Mynd 'nôl i Flaenau Ffestiniog' ymhlith y caneuon mwya’ poblogaidd a ryddhawyd yn Gymraeg erioed.

Deg mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cafodd y band ei ail-ffurfio yn 2002 i berfformio yng Ngŵyl y Faenol gan ryddhau eu halbwm cyntaf 'Twll Du Ifan Saer' yn 2008 a pherfformio mewn gigs ledled Cymru. Mae apêl eu hiwmor a’u hagwedd heintus at fywyd yn taro tant gyda chynulleidfaoedd o bob oed.

Bydd y rhaglen ddogfen yn egluro pam yr oedd y band mor allweddol yng ngenedigaeth y sin roc Gymraeg. Bydd y rhaglen yna yn dilyn dylanwad aelodau'r Tebot Piws ar fandiau roc a gwerin yn ystod y 70au a'r 80au drwy goeden deulu seicadelic 3D, gan ddangos eu cysylltiadau gyda grwpiau'r cyfnod gan gynnwys Ac Eraill, Edward H Dafis a Mynediad am Ddim.

Mae'r gig ffarwel yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth yn rhan o ddathliadau Cob 200 i nodi dau ganmlwyddiant cwblhau adeiladu'r Cob Cob rhwng Sir Feirionnydd a'r hen Sir Gaernarfon ddau gan mlynedd yn ôl. Pan gafodd y band wahoddiad i berfformio, roedden nhw'n gytûn mai dyma oedd yr amser iawn i roi’r tebot a'r gitârs yn y to.

"Tua'r un adeg ag y daeth y cais yma i berfformio yn Neuadd Penrhyn, roeddan ni wedi bod yn sôn am roi’r gorau iddi. Un peth ydy dreifio drwy’r nos wedi bod yn canu yn rwla a chyrraedd adra efo’r dyn llaeth pan ti yn dy ugeiniau, ond mae’n fater arall pan wyt ti yn dy chwedegau!" meddai Alun 'Sbardun' Huws, a gafodd ei fagu ym mhentref Penrhyndeudraeth ger Porthmadog.

"Er ein bod ni wedi cael amser ffantastig ac mor ddiolchgar i'n dilynwyr a’n cefnogwyr ni o bob oed, mae'n well gadael rhywbeth yn ei flas weithiau. A lle gwell i 'neud hwnna nag yn y Neuadd lle ges i fy mhrofiadau cynta' o ganu pop a roc?

"Yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth glywais i fiwsig roc a phop am y tro cyntaf," meddai Sbardun. "Roedd bandiau lleol fel yr Anglesey Strangers a Dino and the Wildfires ddaru gyrraedd 10 Uchaf Siart Prydain yn dod yno i gigio - ac mi ddaeth Van Morrison yno unwaith. Dwi hefyd yn cofio cystadlu yn Steddfod y Plant yn y Neuadd, felly mae'r lle yn agos iawn at fy nghalon i."

Morwen Pritchard a'i thîm wnaeth drefnu'r gig ffarwel. Roedd hi ac Alun 'Sbardun' Huws yn nabod ei gilydd ers yr oeddent yn yr ysgol ac wedi canu a chystadlu ar yr un llwyfan yn Neuadd Goffa Penrhyn fel plant. Felly roedd pen-blwydd y Cob yn rheswm gwych i gynnig i Alun a’r band berfformio yno a chodi arian ar yr un pryd i gynnal a chadw’r Neuadd Goffa.

''Mi roedd y noson yn un llwyddiannus iawn ac roedd perfformiad Y Tebot Piws yn wefreiddiol,'' meddai Morwen, ''Mi wnaeth y grŵp ddod ag atgofion cynnar cynnes yn ôl i lawer o'r gynulleidfa. Roedd yr awyrgylch o fewn y neuadd yn un ffantastig ond emosiynol iawn hefyd, ac roedd yn fraint eu gweld nhw’n perfformio am y tro olaf.''

Gwreiddiau Roc: Y Tebot Piws

Nos Sadwrn 18 Mehefin 20:00, S4C

Hefyd, nos Fawrth 21 Mehefin 22:35, S4C

Isdeitlau Saesneg

Cynhyrchiad Antena ar gyfer S4C

 

Ie, Ie, ‘Na Fe: Cyngerdd Olaf Y Tebot Piws

Nos Sadwrn 18 Mehefin 21:00, S4C

Hefyd, nos Iau 23 Mehefin 21:30, S4C

Cynhyrchiad P.O.P.1 ar gyfer S4C

 

Gwefan: s4c.co.uk/cerddoriaeth

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Rhannu |