Teledu
Rhieni talentog Amlwch ar eu ffordd i chwarae yn Ffrainc
Mae pobl Ynys Môn unwaith eto wedi profi eu dawn ar lwyfan cenedlaethol wrth i dîm o rieni o Amlwch ennill y gyfres bêl-droed Codi Gôl.
Yn dilyn ei buddugoliaeth ar pennod diweddara’r gyfres a gafodd ei ddangos neithiwr, byddant yn mynd ymlaen i chwarae yn erbyn tîm o rieni o Dinard yn Llydaw, cartref carfan Cymru yn ystod Euro 2016.
Wedi sicrhau buddugoliaeth swmpus dros rieni Ffostrasol yn y rowndiau cynderfynol ar ddiwrnod y ffeinals yn Y Drenewydd, fe aeth yr Ynyswyr ymlaen i ennill 1-0 yn y rownd derfynol yn erbyn Rhydaman.
Mae’r fuddugoliaeth yn coroni blwyddyn i’w gofio i drigolion yr ynys, yn dilyn buddugoliaeth y band Cordia yn Cân i Gymru eleni.
Dywedodd Owain Tudur Jones, rheolwr Amlwch: "Fel y rheolwr, dwi'n falch iawn o'n nhîm.
"Mae wedi bod yn bleser gweithio efo nhw drwy'r cyfan.
"Wnaethon ni ennill y rownd gynderfynol yn eitha' rhwydd, ond roedd hi'n gêm anoddach yn y ffeinal.
"Ond ddaru nhw ddangos eu penderfyniad i groesi'r llinell ac ennill gwobr anhygoel. Maen nhw'n sicr yn edrych ymlaen at y trip i Ffrainc rŵan!"
Ers rhai wythnosau mae timau o rieni chwaraewyr ifanc o glybiau pêl-droed Amlwch, Rhydaman, Ffostrasol a Pwllheli wedi bod yn ymarfer ar gyfer rowndiau terfynol Codi Gôl, dan reolaeth un o bedair cyn seren bêl-droed Cymru; Owain Tudur Jones, John Hartson, Iwan Roberts a Malcolm Allen.
Fe ddaeth cannoedd o gefnogwyr o bob cwr o Gymru i wylio'r cyffro ar Barc Latham yn Y Drenewydd. Yn y gêm gynderfynol gyntaf, enillodd Rhydaman 2-0 mewn gêm gystadleuol dros ben yn erbyn Pwllheli. Enillodd Amlwch eu lle yn y ffeinal ar ôl ennill 4-0 yn erbyn Ffostrasol.
Mewn gêm dynn rhwng Amlwch a Rhydaman, sgoriodd Gethin Jones y gôl fuddugol yn yr hanner cyntaf i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm o'r gogledd. Cyflwynwyd y darian i gapten Amlwch, y gôl-geidwad Richard Williams-Jones, gan gyn chwaraewr Watford a Newcastle United, Malcolm Allen.
Gwobr tîm Owain ydy trip i Dinard, yn Llydaw i chwarae yn erbyn tîm o rieni o'r dref. Cewch ddilyn eu hantur draw yn Ffrainc wrth i'r gyfres barhau am 8.00 bob nos Sul.
"Roedd o'n ddiwrnod grêt ac yn llwyddiant mawr yn y Drenewydd," ychwanega Owain.
"Roedd o'n wych gweld y pedwar clwb yn dod i'r Drenewydd efo llond bws o gefnogwyr yr un.
"Ddaru hynny ychwanegu at yr awyrgylch a gwneud o'n achlysur arbennig i'r rhieni. Fydden nhw ddim yn anghofio'r diwrnod am amser maith, yn enwedig fy nhîm i o Amlwch!"