Teledu

RSS Icon
10 Mehefin 2016

Huw Edwards i gynnal dadl deledu fyw yn Abertawe am refferendwm yr UE

Bydd Huw Edwards yn cynnal dadl deledu fyw ar Refferendwm yr UE nos Wwener, Mehefin 17, fel rhan o sylw helaeth BBC Cymru i’r penderfyniad allweddol sy’n wynebu pleidleiswyr yn Refferendwm yr UE.

O flaen cynulleidfa sydd o blaid aros, gadael a rhai sydd heb benderfynu, bydd ffigurau blaenllaw o’r ddwy ymgyrch yn wynebu cwestiynau anodd yn BBC Wales EU Referendum Debate Live with Huw Edwards (BBC One Wales, 9pm).

Yn fyw ar BBC One Wales, sianel BBC News a BBC Radio Wales, Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe fydd yn cynnal un o’r cyfleoedd olaf i’r ddwy ochr gyflwyno eu dadleuon, dim ond chwe niwrnod cyn y bydd y DU yn gwneud y penderfyniad hanesyddol a ddylid aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Huw Edwards: “Mae’r penderfyniad a fyddwn yn gadael neu’n aros yn yr UE yn un hollbwysig i bobl y DU a bydd yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei rhedeg am genhedlaeth o leiaf.

"Mae’n bwysig bod pobl yn cael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnynt i ddod i benderfyniad ac rwy’n meddwl y bydd dadl BBC Cymru yn Abertawe yn chwarae rhan allweddol yn y broses.”

Yna, ar BBC Two Wales, fe fydd Bethan Rhys Roberts yn cyflwyno BBC Wales EU Referendum Debate: Reaction (BBC Two Wales, 10pm) o flaen cynulleidfa stiwdio, gan roi cyfle i wylwyr fesur yr ymateb i’r ddadl yn syth, gydag amrywiaeth o westeion.

Mae’r ddadl fyw yn Abertawe yn rhan o sylw sylweddol i’r refferendwm ar draws gwasanaethau BBC Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg ar y teledu, radio ac ar-lein.

Yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm, bydd BBC Wales Today yn dilyn holl ddatblygiadau’r ymgyrch. Bydd y rhaglen yn Sbaen i glywed barn y Cymry sy’n byw yno, a bydd hefyd yn clywed gan rai o ddinasyddion yr UE sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Bydd darllediadau Newyddion 9 am y refferendwm ar S4C yn parhau yr wythnos nesaf gydag adroddiadau ar faterion yn ymwneud ag economi Cymru a goblygiadau’r bleidlais. Bydd y pynciau penodol a drafodir yn cynnwys busnes a biwrocratiaeth, teithio ar draws yr UE, a dyfodol cyllid strwythurol ar gyfer y rhannau tlotaf o Gymru.

Bydd sylw BBC Radio Wales i’r pwnc yn cynnwys yr ail BBC Radio Wales EU Referendum Debate yn fyw o Wrecsam ddydd Mercher, Mehefin 15, lle bydd Oliver Hides a chynulleidfa wadd yn profi rhai o’r dadleuon dros adael neu aros yn yr UE.

Ar S4C ar Fehefin 15, bydd Y Sgwrs yn edrych ar yr ymgyrchoedd wrth i’r diwrnod pleidleisio agosau. Yna, nos Fercher, Mehefin 22 - y noson cyn y bleidlais - bydd Pawb a’i Farn: Refferendwm Ewrop yn dod o Goleg Caerdydd a'r Fro yng nghanol y brifddinas. Dewi Llwyd fydd yn arwain y drafodaeth yno gyda phanel sy’n cynrychioli’r ymgyrchoedd a chynulleidfa o bobl o bob rhan o Gymru.

Bydd y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru yn darlledu o bedair brifddinas y DU ac yn casglu ymateb o bob cwr o’r DU, a bydd rhifyn arbennig yn cael ei chyflwyno o Frwsel a Chaerdydd gyda mewnbwn o wledydd ledled Ewrop. A bydd Taro’r Post yn rhoi cyfle i wrandawyr ofyn y cwestiynau yr hoffent gael atebion iddyn nhw gan y ddwy ymgyrch.

Ar ôl i’r gorsafoedd bleidleisio gau nos Iau, Mehefin 23, bydd BBC Cymru yn cynnig y newyddion diweddaraf o Gymru fel rhan o raglen ganlyniadau Refferendwm UE y BBC ar BBC One Wales. Yn Gymraeg, bydd y rhaglen ganlyniadau fyw Refferendwm Ewrop yn cael ei darlledu yr un pryd ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda Dewi Llwyd a Vaughan Roderick yng Nghaerdydd, a Bethan Rhys Roberts yn San Steffan gyda’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Yn ogystal, bydd sylw eang i’r canlyniadau ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd y darlledu’n parhau ar y teledu a’r radio fore Gwener, Mehefin 24, wrth i’r canlyniad gael ei gyhoeddi, gyda dadansoddiad o’r goblygiadau ar gyfer Cymru.

Rhannu |