Teledu

RSS Icon
10 Mehefin 2011

Cofio gyda Hogia'r Wyddfa

Fe fydd y gyfres Cofio ar S4C yn edrych ar yrfa gerddorol liwgar un o’r grwpiau mwyaf poblogaidd erioed yn y byd adloniant Cymraeg, Hogia’r Wyddfa.

Gan ddefnyddio archif gerddorol werthfawr a chyfweld ag aelodau’r grŵp, cawn ddarlun byw o ddegawdau cyffrous yn hanes cerddoriaeth Gymraeg trwy lygaid grŵp fu’n perfformio ers 48 mlynedd.

Y cyflwynydd Lisa Gwilym sy’n cyfweld aelodau’r band ymhlith nifer o bobl amlwg eraill yn y byd adloniant mewn rhaglen 50 munud arbennig i’w dangos Nos Wener, 24 Mehefin ar S4C.

Mewn rhaglen yn llawn emosiwn ac angerdd - yn ogystal â llond rîl o berfformiadau, mae’r hogia’ o ardal Llanberis, Gwynedd yn son yn agored am y straen a’r wefr, yr hwyl a’r gofid o fod mewn band mor boblogaidd.

Yn y 1960au a’r 1970au yn enwedig, roedd caneuon cofiadwy fel Safwn yn y Bwlch, Tylluanod, Titw Tomos Las, Aberdaron, Llanc Ifanc o Lŷn a Pentre Bach Llanber ar dop siartiau Deg Uchaf y Cymro yn gyson.

Roedden nhw’n denu cynulleidfaoedd mawr i’w nosweithiau llawen a’u cyngherddau mewn mannau mor amrywiol â’r Royal Albert Hall, Majestic, Caernarfon a neuaddau pentre’ ledled Cymru. 

Wedi’u ffurfio yn wreiddiol yn 1963, fe ddaeth enwau Arwel Jones, Myrddin Owen, Elwyn Wilson Jones (y tri yn canu), Vivian Parry (gitâr) a’r diweddar Richard Huw Morris (piano) yn gyfarwydd iawn. Maen nhw’n dal i ganu a pherfformio heddiw gyda’r cyfeilydd Annette Bryn Parri bellach yn rhan hanfodol o’r grŵp.

O’r dechrau roedd ‘chemistry’ arbenning yn perthyn iddynt a’r gymysgedd o’r doniol a’r difri’ yn eu troi’n dynfa fawr.

Fel dywed Myrddin Owen: “Roedd yna ddau fath o ddeigryn yn y sioeau. Roedd y caneuon yn dod a deigryn i lygaid y gynulleidfa ac roedd deigryn o fath wahanol - o chwerthin - yn dod o’r sgetsus.”

Ond fe gafodd y band ei siâr o feirniadaeth - yn enwedig am addasu cerddi adnabyddus beirdd fel Cynan, R Williams Parry ac I D Hooson yn ganeuon poblogaidd.  Maen nhw’n sôn yn onest am hynny, am y galar o golli aelod o’r band ac am y straen o berfformio a arweiniodd iddynt roi’r gorau iddi am gyfnod.

Meddai Arwel Jones: “Tydi llwyddiant ddim yn fêl i gyd - mae llwyddiant efo’i bris hefyd. Y rheswm y daethon ni i’r penderfyniad i stopio oedd ein bod wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa. Mi gafodd o effaith ar ein hiechyd ni.”

Yn ogystal ag aelodau’r band, mae wynebau cyfarwydd yn y byd adloniant yng Nghymru fel Hywel Gwynfryn, Huw Jones, Dafydd Iwan, Idris Charles, J O Roberts a John Ogwen yn hel atgofion ac yn pwyso a mesur eu cyfraniad.

Meddai John Ogwen: “Mae llawer o’r hiwmor yn dod o’r chwarel - mae ganddyn nhw hiwmor sy’n gallu crafu ond ma’ yna ryw anwyldeb yn dod trwyddo hefyd. Dyna pam eu bod nhw mor boblogaidd.  Yr allwedd pam eu bod nhw wedi aros gyda’i gilydd cyhyd yw eu bod yn ffrindiau mor dda ac mae hynny’n cael ei drosglwyddo i’r gynulleidfa.”

I ddilyn y rhifyn arbennig o Cofio, bydd dwy raglen archif – Yng Nghwmni: Hogia’r Wyddfa, a Noson Chis a Meinir – yn ddathliad pellach o yrfa’r Hogia’.


Cofio gyda Hogia’r Wyddfa

Nos Wener 24 Mehefin 20:25, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg


Yng Nghwmni: Hogia’r Wyddfa

Nos Wener 24 Mehefin 21:30, S4C


Noson Chis a Meinir

Nos Wener 24 Mehefin 22:10, S4C


Gwefan: s4c.co.uk/ffeithiol

Ar Alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C

Rhannu |