Teledu

RSS Icon
31 Mai 2016

Cannoedd yn mwynhau Taith Ewros S4C rownd y clybiau

Daeth cannoedd o gefnogwyr pêl-droed i rannu cyffro Euro 2016 wrth i Daith yr Ewros S4C deithio i glybiau pêl-droed ledled Cymru.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae criw Euro 2016 S4C wedi teithio i Landudno, Bangor, Y Bala, Penrhyncoch a Chaerfyrddin i gwrdd â ffans, cynnal sesiynau hyfforddi gyda thimau ieuenctid a chynnal cwis a sesiynau cwestiwn ac ateb.

Ymysg y rhai aeth ar y daith i hyrwyddo rhaglenni S4C dros gyfnod Euro 2016, oedd y cyflwynydd Dylan Ebenezer, y sylwebydd Nic Parry, a chyn chwaraewyr Cymru, Iwan Roberts, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

Hefyd yn diddanu’r torfeydd roedd y pêl-droediwr triciau proffesiynol o Gaerdydd, Ash Randall, a wnaeth berfformio ei sioe o sgiliau ysblennydd.

Dywedodd Dylan Ebenezer: “Roedd o’n grêt cael trafod pêl droed Cymru efo ffans ar draws y genedl.

"Roedd nifer o ffans brwdfrydig i’w weld yn mhob clwb a wnaethon ni i gyd fwynhau’r croeso cynnes yno. Doedd sgiliau Ash ddim yn ddrwg chwaith, chwarae teg!”

Yn ogystal â’r daith, fe drefnwyd Gêm y Sêr: Pobol y Cwm v Rownd a Rownd, sef gêm arbennig rhwng sêr y ddwy gyfres sebon S4C, ym Mharc Latham, yn y Drenewydd.

Ar ôl gêm fywiog iawn, criw Rownd a Rownd oedd yn dathlu wedi’r chwiban olaf ar ôl buddugoliaeth swmpus o saith gôl i ddim.

Roedd cannoedd o gefnogwyr eisoes yn y stadiwm i wylio rowndiau terfynol y gyfres Codi Gôl, lle'r oedd timau o rieni o Amlwch, Ffostrasol, Pwllheli a Rhydaman yn herio’i gilydd am y darian, a’r wobr o gael mynd i Ffrainc yn ystod Euro 2016 i chwarae yn erbyn tîm o rieni Llydaweg.

Cewch ddarganfod pwy sy’n ennill y gystadleuaeth wrth ddilyn y gyfres, sy’n cael ei darlledu am 7.30 bob nos Sul ar S4C.

Trwy gydol y daith, casglwyd arian at Street Football Wales, elusen sy'n helpu pobl ddigartref a phobl sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol trwy weithgareddau pêl-droed.

Cynhaliwyd raffl ym mhob lleoliad ar y daith ac fe fydd y swm terfynol yn cael ei gyhoeddi ar ôl Euro 2016.

“Roedd hi’n ddiwrnod braf ym Mharc Latham ac roedd yr awyrgylch yn fywiog, "ychwanegodd Dylan.

“Druan â chriw Pobol y Cwm, ond i fod yn deg roedd gan Rownd a Rownd ddau dîm, un gwahanol ar gyfer pob hanner ac ambell chwaraewr dawnus dros ben.”

Bydd holl gemau rowndiau grŵp Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2016 i’w gweld yn fyw ac mewn HD ar S4C, yn dechrau ar 11 Mehefin n erbyn Slofacia.

Am fwy o wybodaeth am raglenni S4C dros gyfnod Euro 2016, ewch i www.s4c.cymru.

Llun 1: Rheolwr Llandudno Alan Morgan, gyda chwaraewyr y tîm cyntaf a’r academi, yn ogystal ag aelodau o dîm Euro 2016 S4C Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Nic Parry

Llun 2: Criw Rownd a Rownd a Pobl y Cwm yn cymysgu ar ôl chwiban olaf yn Gêm y Sêr.

Llun 3: Y pêl droediwr triciau o Gaerdydd, Ash Randall, ar Pier Llandudno.

Rhannu |