Teledu

RSS Icon
25 Mai 2016

Y canllaw perffaith ar gyfer dilynwyr pêl-droed Euro 2016

Gyda thîm pêl-droed rhyngwladol Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc mae'r cyflwynydd Dylan Ebenezer a'r cyn chwaraewr rhyngwladol Malcolm Allen ar grwydr i Bordeaux, Lens a Toulouse.

Mae'r tair dinas yn wahanol iawn i'w gilydd a bydd y wibdaith hwyliog yn llawn gwybodaeth ddifyr ac awgrymiadau defnyddiol am bethau i'w gweld a’u gwneud ymhob un ohonyn nhw.

Bydd Ar y Ffordd i'r Ffwti yn Ffrainc, nos Lun, 30 Mai ar S4C, yn dangos y ddau ffrind wrth iddyn nhw ymweld â'r dinasoedd sy'n gartref i gemau Grŵp B Cymru, yn ogystal â Dinard yn Llydaw, lleoliad gwesty carfan Chris Coleman.

"Fe aethom ar loop fawr rownd Ffrainc. Fi oedd yn gyrru a Malcolm oedd y co-driver ar y trip. Mae Bordeaux yn lle prydferth a chrand, tra bod Toulouse yn lle tlws ac ychydig yn fwy na Bordeaux,” meddai Dylan a fydd, ynghyd â Malcolm, yn rhan o'r tîm cyflwyno wrth i S4C dangos pob un o gemau grŵp Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016 yn fyw.

"Mae Lens yn lle bach iawn, a thebyg i rai rhannau o Gymru. Roedd pyllau glo wedi cau yno, lot o ddiweithdra, ond mae'r bobl yn groesawgar iawn. Ar y llaw arall, roedd Dinard yn lle hyfryd a distaw. Cawsom aros yn y gwesty bydd carfan Cymru'n aros ynddo, ac mae o'n lleoliad perffaith i'r chwaraewyr gael dianc o wallgofrwydd yr Euros,” eglurodd Dylan, sy’n wreiddiol o Aberystwyth ac yn byw bellach yng Nghaerdydd.

"Roedd mynd i Bordeaux yn ffantastig. Fi a Malcolm gyda'r to i lawr ar ein Citroen 2CV, a'r haul yn gwenu wrth deithio ar hyd y promenâd hyfryd. Un o'r uchafbwyntiau eraill oedd cerdded allan o'r twnnel ar y cae yn y Stade Bollaert-Delelis yn Lens, yn ceisio dychmygu beth fydd chwaraewyr Cymru'n meddwl wrth iddyn nhw wneud yr un peth cyn y gêm yn erbyn Lloegr. Fe aethom i ymweld â mynwentydd y Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngogledd Ffrainc, ac roedd hynny'n agoriad llygad i ni."

Yn ystod eu hymweliad â Ffrainc, bydd Dylan a’i fêt o Ddeiniolen, Malcolm yn cwrdd ag ambell gymeriad lliwgar ac yn blasu'r ddiod a bwyd lleol. "Fe wnaethon ni ddysgu sut i ddweud 'coridor ansicrwydd' yn Ffrangeg, sef un o hoff ddywediadau Malcolm yn y blwch sylwebu! Dwi ddim yn gwybod pa mor ddefnyddiol fydd hynny mewn tŷ bwyta!

"Ers mis Hydref y llynedd pan wnaeth Cymru ennill ei lle yn y rowndiau terfynol, dwi wedi bod yn trio peidio â meddwl gormod am ein gemau yn Ffrainc. Ond nawr mae'r build-up wedi dechrau go iawn, mae'r llyfrau sticeri mas ers sbel, mae sawl cân bêl-droed wedi'i rhyddhau - ac mae'r peth yn dechrau teimlo'n real iawn."

Ar y Ffordd i'r Ffwti yn Ffrainc

Nos Lun, 30 Mai, 9.30, S4C                
Isdeitlau Saesneg Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |