Teledu

RSS Icon
12 Mai 2016

Sêr Cymru yn hyfforddi rhieni i chwarae pêl droed

Yn hytrach na gorfod gwrando ar waeddu’r rhieni, tro’r plant fydd hi i gefnogi o’r ystlus wrth i'w rhieni gystadlu yng nghyfres bêl droed newydd S4C.

Ar gyfer Codi Gôl, sy’n dechrau nos Sul, 15 Mai i gyd-redeg â Phencampwriaeth Euro 2016 bydd pedwar tîm pêl-droed newydd yn cael eu ffurfio mewn pedair tref ar draws Cymru. 

Yn chwarae yn y timau bydd mamau a thadau'r bobl ifanc sy’n chwarae i dimau pêl-droed ieuenctid y clybiau, tra bydd pedwar cyn-seren pêl-droed Cymru yn rheolwr ar y timau gwahanol.

Ar ôl ychydig o hyfforddiant bydd y timoedd o Amlwch, Ffostrasol, Pwllheli a Rhydaman yn mynd benben â’i gilydd ym Mharc Latham yn y Drenewydd, gyda’r tîm buddugol yn ennill yr hawl i gynrychioli Cymru mewn gêm arbennig yn erbyn tîm o rieni yn Llydaw yn ystod yr Ewros.

Cyn chwaraewr Abertawe, Inverness Caledonian Thistle a Hibernian, Owain Tudur Jones fydd yn rheolwr ar Amlwch, tra bydd cyn ymosodwr Arsenal, West Ham a Celtic, John Hartson yn rheoli Rhydaman.

Yn ceisio arwain Ffostrasol at lwyddiant mae cyn chwaraewr Leicester City a Norwich City, Iwan Roberts ac yn rheoli Pwllheli fydd cyn ymosodwr Watford, Aston Villa a Newcastle United, Malcolm Allen.

Dywedodd John Hartson, a sgoriodd 14 gôl mewn 51 gêm dros Gymru: “Dw i wastad wedi ffansio fod yn rheolwr ar dîm bêl droed, ond o’n i byth wedi meddwl taw yn Rhydaman y byddwn i’n cael fy nghyfle cyntaf! 

“Mae’r rhieni a’r plant yn Rhydaman yn griw llawn angerdd ac maen nhw’n benderfynol o ennill - does dim llawer o’r dramatics y byd pêl-droed modern i’w gweld yma, ond mae digon o sbort i’w gael bant o’r cae.”

Ychwanega Owain Tudur Jones, a enillodd saith gap dros Gymru: “Mae’n grêt gweld yr ysbryd cymunedol yn Amlwch - mae ffocws pawb ar y plant, y teulu, y gymuned a’r tîm pêl droed.

“Fyswn i wrth fy modd petai Amlwch yn cael y cyfle i fynd i Ffrainc i chwarae, felly dw i’n trio gwneud bob dim y gallai i’w paratoi nhw. Yn sicr, fydd na ddim ffrindiau pan mae’r timoedd yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn y Drenewydd!” 

Mae Iwan Roberts yn gwneud y siwrnau hir o’i gartref yn Norwich i hyfforddi Ffostrasol ond, “mae gweld angerdd a phenderfyniad cymuned gymharol fach werth pob milltir o’r daith” yn ôl Iwan.

Cafodd Malcolm Allen y fraint o chwarae a sgorio dros Newcastle a Chymru ond, "mae’r pwysau o rheoli a sicrhau llwyddiant i dîm o rhieni Pwllheli yr un mor drwm! A dim ond un gôl sydd mewn gwirionedd sef ennill!"

Bydd y plant hefyd yn chwarae rôl allweddol - penderfynnu ar liwiau’r clwb, beth a phwy fydd y masgot a’r penderfyniad mawr - ydyn nhw’n mynd i gadw ffudd yn y rheolwr? Hefyd yn ymddangos yn ystod y gyfres bydd y cyflwynydd Radio Wales Eleri Siôn, a fydd yn cael ei hyfforddi i fod yn ddyfarnwr ar gyfer y diwrnod hollbwysig yn y Drenewydd.

Codi Gôl
Nos Sul, 15 Mai, 8.00, S4C                   
Isdeitlau Saesneg                                
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Rhannu |