Teledu
Actores Y Gwyll ar drywydd llofruddwyr go iawn
Mewn cyfres newydd, bydd seren Y Gwyll Mali Harries yn dilyn ôl troed ditectifs ddoe a heddiw ac yn dysgu am rai o achosion troseddol mwyaf arswydus Cymru.
O achos llofruddiaeth Ffion Wyn Roberts ym Mhorthmadog i'r llofrudd cyntaf gafodd ei godi o'i fedd yn Ne Cymru i brofi ei euogrwydd - bydd cyfres S4C, Y Ditectif, yn datgelu rhai o gyfrinachau Heddluoedd Cymru yn eu gwaith o ddal y troseddwyr peryclaf.
"Mae pob pennod yn wahanol ac rydyn ni'n dysgu gyda'n gilydd am y ffyrdd mae ditectifs wedi mynd i’r afael â’u gwaith," meddai Mali Harries, sy'n portreadu DI Mared Rhys yn Y Gwyll.
"I fi yn amlwg fel actores o'r gyfres Y Gwyll, roedd cwrdd â ditectifs go iawn yn ddiddorol iawn a gweld sut ro'n nhw'n gwneud eu gwaith nhw a sut mae pethe’ wedi newid. Mae e'n anhygoel beth mae'r bobol yma'n 'neud."
Yn ystod y gyfres, sy'n dechrau nos Fawrth, 10 Mai, bydd Mali, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, yn teithio i Sir Benfro, Sir Gâr, Penrhyn Gŵyr, Rhondda Cynon Taf, Ynys Môn a Gwynedd i ymweld â lleoliadau rhai o'r achosion llofruddiaeth a smyglo cyffuriau mwyaf amlwg yn hanes Cymru.
Bydd hi'n dysgu am waith y ditectifs ac yn mynd i'r labordy gyda gwyddonwyr i weld sut mae datblygiadau fforensig wedi helpu'r heddluoedd i ddal troseddwyr ddegawdau yn ddiweddarach. Ac yn ôl Mali, mae'r gyfres wedi bod yn agoriad llygad i fyd gwahanol iawn.
"Pan ti'n 'neud rhaglen fel hyn, ti'n troi lan a ti'n mynd i leoliadau crime scenes go iawn," ychwanegodd Mali.
"Er enghraifft, yn achos y Saturday Night Strangler ger Abertawe, aethon ni i'r goedwig lle cafodd y merched yma eu lladd.
"Ni'n mynd i le o'dd y bobl yma wedi colli eu bywydau ac roedd hynny yn naturiol wedi effeithio arna i.
"Mae dangos parch at y bobl sydd wedi colli eu bywydau, a'u teuluoedd, yn bwysig iawn i fi a'r tîm cynhyrchu. Mae e'n hollol wahanol i 'neud drama."
Ym mhennod gyntaf y gyfres bydd Mali yn clywed am ymdrechion Heddlu De Cymru i ddod o hyd i lofrudd tair merch ifanc yn y 1970au.
Cafodd Geraldine Hughes, Pauline Floyd a Sandra Newton eu treisio a'u llofruddio yn 1973 ger Abertawe a Chastell-nedd ac fe fu ymchwiliad enfawr i drio dod o hyd i'r llofrudd.
Ond fe wnaeth y Saturday Night Strangler ddianc o'r heddlu ar y pryd.
Ar ôl bron i 30 mlynedd, fe wnaeth datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig roi cymorth i'r heddlu ddod o hyd i'r llofrudd.
Roedd 'na ddau Gymro Cymraeg - Phil Rees a Geraint Bale – yn rhan allweddol o'r tîm o dditectifs wnaeth ddal y llofrudd a byddan nhw'n datgelu rhai o gyfrinachau'r achos i wylwyr S4C.
Y Ditectif
Nos Fawrth 10 Mai 9.30, S4C Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad ITV Cymru Wales ar gyfer S4C