Teledu
Owain Tudur Jones – o'r maes chwarae i faes y gad
Bydd llygaid y byd pêl-droed ar Ffrainc yn ystod yr haf wrth i bencampwriaeth Euro 2016 gael ei chynnal yn y wlad.
Ac am unwaith, gallwn ninnau, fel Cymry, ymfalchïo yn y ffaith bod ein pêl-droedwyr ni yn rhan o’r carnifal a’r cystadlu.
Ond, 100 mlynedd yn ôl, roedd bechgyn ifanc Cymru yn heidio i Ffrainc am resymau tra gwahanol.
Nid brwydr ar faes pêl-droed oedd yn eu hwynebu bryd hynny, ond brwydr go iawn ar faes y gad.
Fel pob proffesiwn a galwedigaeth arall, roedd ‘na gannoedd o beldroedwyr ymysg y miloedd o Gymry ymrestrodd â’r fyddin ar gyfer brwydro yn y Rhyfel Mawr.
Mewn rhaglen arbennig ar S4C nos Sul, 8 Mai, Owain Tudur Jones: Ar Faes y Gad, mae’r cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Owain Tudur Jones, sy’n wreiddiol o Benrhosgarnedd, ger Bangor, yn mynd ar daith i geisio darganfod rhai o’r chwaraewyr rhyngwladol hynny roddodd eu gyrfaoedd ar stop er mwyn chwarae eu rhan.
Gwnaeth rhai ohonynt yr aberth eithaf, yn eu mysg y golwr enwog, Leigh Richmond Roose, oedd rhwng y pyst i’r Gwyrdd a Du pan enillodd Aberystwyth Gwpan Cymru ym 1900.
Yn ystod y rhaglen bydd Owain yn teithio i Ffrainc ac i Fflandrys er mwyn ceisio datrys y dirgelwch ynghylch tynged ‘Brenin y Gôl-geidwaid’.
Credai ei deulu ei fod wedi’i ladd yn ystod y brwydro ffyrnig yn Gallipoli, lle’r oedd wedi ymrestru gyda’r Royal Medical Corps.
Ond yn ddiarwybod i’w deulu, cafodd Roose ei ladd ymhell iawn o Dwrci, ynghanol erchyllterau ffosydd y Somme.
“O gofio mai Roose oedd un o chwaraewyr pêl-droed amlycaf y byd cyn y Rhyfel Mawr, mae’n anhygoel meddwl nad oedd ei deulu yn ymwybodol o’i ddewrder wrth ennill y Military Medal, heb sôn am wybod sut a lle bu farw,” meddai Owain.
A thra ar drywydd Roose yn Ffrainc a Gwlad Belg, llwyddodd Owain i ddod o hyd i gerrig beddau rhai o’i gyndeidiau ei hun a fu farw yn ystod y Rhyfel Mawr.
“Roedd yn foment emosiynol iawn,” cyfaddefa cyn chwaraewr Abertawe, Inverness a Chymru.
“Roeddwn i wedi clywed hanes y teulu gan fy nhaid, yr awdur Geraint Vaughan Jones, ond dim ond ar ôl cyrraedd Ffrainc a Gwlad Belg a gweld yr holl fynwentydd a’r holl gerrig beddi gwyn, wnes i sylweddoli realiti’r sefyllfa.
“Mae dyn yn ei chael hi’n anodd deall maint a graddfa’r colledion, ond roedd hi’n hyfryd, os mai dyna’r gair cywir, dod o hyd i fedd fy hen, hen daid ac eistedd yno a thalu teyrnged bersonol iddo,” ychwanega.
Tra bod miloedd o fechgyn ifanc wedi gwneud yr aberth eithaf, llwyddodd eraill, fel Fred Keenor, i oresgyn anafiadau erchyll yn y ffosydd a chamu ymlaen i wneud eu marc ar y byd pêl-droed wedi’r rhyfel.
Bydd Owain hefyd yn clywed hanes un o arwyr eraill Caerdydd a Chwpan FA 1927, George Latham, a’i gysylltiadau â’r Drenewydd cyn mynd ar drywydd un arall o feibion y dref ym Mhowys, Harry Beadles, a aeth ymlaen i gynrychioli Caerdydd, Lerpwl a Chymru.
Roedd y pêl droediwr ifanc wedi dweud celwydd am ei oedran er mwyn ymuno â Band y Royal Welsh Fusiliers fel biwglwr.
“Roedd dod o hyd i’r holl hanesion a chlywed am yr holl bêl-droedwyr rhyngwladol hyn fu’n wynebu erchylltra’r rhyfel yn agoriad llygaid,” meddai Owain.
“Yn sicr, mae’n gwneud i rywun ddiolch i’r drefn na chafodd ei eni 100 mlynedd ynghynt.”
Owain Tudur Jones: Ar Faes y Gad
Nos Sul 8 Mai 8.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C
Lluniau:
Owain Tudur Jones yn pori trwy lyfrau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth
Teyrnged bersonol Owain Tudur Jones wrth ymyl bedd ei hen, hen daid, Tomos Huw Davies, mewn mynwent o Ypres