Teledu

RSS Icon
26 Ebrill 2016

Dydd y Farn yn agor penwythnos mawr o chwaraeon ar S4C

Y Stadiwm Principality fydd cartref rygbi S4C dros benwythnos Gŵyl y Banc ar ddechrau Mai wrth i gemau Dydd y Farn a Diwrnod Rowndiau Terfynol SSE Swalec gael eu dangos yn fyw ar y Sianel.

Wrth i ddiweddglo'r tymor Guinness PRO12 agosáu, bydd y pedwar rhanbarth o Gymru yn herio'i gilydd mewn dwy gêm gefn-wrth-gefn ar ddydd Sadwrn, 30 Ebrill.

Yn dechrau'r achlysur bydd y gêm rhwng y Gweilch a'r Gleision fydd i'w gweld yn fyw ar BBC Cymru Wales, cyn i'r Scarlets herio'r Dreigiau mewn gêm a ddangosir yn fyw ar S4C gan Clwb Rygbi.

Yn ymuno â'r cyflwynydd Gareth Roberts ar gyfer y gêm bydd clo'r Dreigiau a Chymru, Andrew Coombs, a'r cyn chwaraewyr rhyngwladol Shane Williams a Deiniol Jones, tra bydd Cennydd Davies a chyn-capten Cymru Gwyn Jones yn sylwebu yn y rhaglen a gynhyrchir gan BBC Cymru Wales. Andy Moore a Ceri Sweeney fydd yn darparu sylwebaeth Saesneg, drwy'r gwasanaeth botwm coch.

Wedi gwerthu'r nifer fwyaf o docynnau erioed hyd yma, fe fydd Dydd y Farn IV yn cael ei wylio gan y dorf uchaf erioed yn hanes y digwyddiad, ac mae Gareth Roberts yn credu bod y diwrnod yn cynnig cyfle gwerthfawr i chwaraewyr serennu ar y llwyfan mwyaf.

Meddai: "Mae'r diwrnod yma wastad yn achlysur arbennig ar gyfer y ffans a'r chwaraewyr.

"A chyda'r Scarlets yn mynd amdani i sicrhau lle yn y chwech uchaf a Chwpan Pencampwyr Ewrop y flwyddyn nesaf, bydd carfan Wayne Pivac yn benderfynol o ennill y gêm hollbwysig hon.

"O safbwynt y Dreigiau, fe fydd llawer yn dibynnu ar ganlyniad eu gêm yn rownd gynderfynol y Cwpan Her yn Montpellier.

"Ond beth bynnag sy'n digwydd yn y gêm honno, allwch chi byth diystyru'r Dreigiau.

"Fe fydd eu chwaraewyr sydd ar ymylon carfan Cymru, pobl fel Hallam Amos, Tyler Morgan a hyd yn oed Nick Cudd, yn awyddus i greu argraff, gyda thaith Cymru i Seland Newydd ar y gorwel."

Bydd camerâu S4C yn dychwelyd i'r Stadiwm Principality y diwrnod canlynol i ddangos y tair gêm ar Ddiwrnod Rowndiau Terfynol SSE Swalec.

Yn dechrau'r diwrnod eleni bydd ffeinal y Bowlen rhwng Porth Tywyn a Ffynnon Taf, cyn y gêm yn rownd derfynol y Plât rhwng gelynion o Adran Un y Dwyrain, Penallta a Bedlinog.

Fe fydd gêm olaf y diwrnod, ffeinal y Cwpan Swalec yn  gystadleuaeth rhwng cewri Uwch Gynghrair y Principality, Cwins Gaerfyrddin a Llanymddyfri. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer pob un o'r gemau.

"Mae diwrnod rowndiau terfynol Swalec hefyd yn arbennig," meddai Gareth. "Gyda Phontypridd a Cross Keys yn colli yn y rownd gynderfynol, West is Best fydd y ffeinal rhwng Llanymddyfri a Chaerfyrddin! I'r clybiau llai, dyma uchafbwynt eu tymor heb os, ac mae'r chwaraewyr yn cael dweud, 'Dw i wedi chwarae yn y Principality' – dydy hynny ddim yn rhywbeth gall pawb ei ddweud!"

Fe fydd pêl-droed yn cloi penwythnos prysur o chwaraeon ac am 3.45 ar brynhawn Llun, 2 Mai, yn fyw ar Sgorio, fe fydd Y Seintiau Newydd yn herio Airbus UK yn ffeinal Cwpan JD Cymru yn y Cae Ras yn Wrecsam.

Bydd Y Seintiau yn ceisio codi'r gwpan genedlaethol am y trydydd tymor yn olynol, tra bydd ei wrthwynebwyr o Frychdyn yn ymddangos yn y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed.

Dydd y Farn: Dreigiau v Scarlets

Dydd Sadwrn 30 Ebrill 4.45pm, S4C          
Cynhyrchiad BBC Cymru

Rygbi SSE Swalec

Dydd Sul, 1 Mai o 12.45, S4C
Cyd-gynhyrchiad rhwng Sunset+Vine ac SMS ar gyfer S4C

Sgorio

Rownd Derfynol Cwpan JD Cymru: Y Seintiau Newydd v Airbus UK

Dydd Llun 2 Mai o 3.45pm, S4C
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Sylwebaeth ar gael ar bob gêm. Gwefan: s4c.cymru

Rhannu |