Teledu

RSS Icon
22 Ebrill 2016

Tudur Owen yn dod â marchnad bysgod 'nôl i Borthaethwy

Mae'r cyflwynydd a'r comedïwr Tudur Owen yn wynebu sialens newydd a chyffrous yn Tudur Owen a'i Gwmni Pysgod nos Sul, 1 Mai ar S4C - i helpu'r gymuned leol i hawlio'i physgod yn ôl.

Does dim modd prynu pysgod ffres lleol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn er bod y dref hynafol wedi'i lleoli ar lannau'r Fenai sydd â chyfoeth o bysgod sy'n cael eu gwerthu ar draws y byd.

Bwriad Tudur Owen yw dod â'r hen arfer o bysgota a gwerthu cynnyrch lleol yn ôl i'r dref gan ail-afael â chrefft sydd bellach wedi'i cholli.

"Mae pob dim y dyddiau 'ma mor fawr ac amhersonol ond doedd hi ddim wastad fel hyn," meddai Tudur Owen, sy'n wreiddiol o Ynys Môn ond sydd bellach yn byw yn y Felinheli.

"Ers talwm, byddai gan bob tref a phentref ei siopau bach - prynu'n lleol oedd bob dim.

"Ym Mhorthaethwy mae cigydd, becws a hyd yn oed siop yn gwerthu siocled ond dim un siop yn gwerthu pysgod lleol ffres."

Yn y rhaglen, byddwn yn dilyn hynt a helynt Tudur a'r trigolion lleol wrth iddynt ail-ddarganfod y pysgod sy'n byw yn y dyfroedd o amgylch yr ynys.

Mae Tudur yn cwrdd â Dr Dylan Evans o Gaernarfon i drafod yr amrywiaeth o fywyd môr sydd i'w chael ar Ynys Môn.

"Mae ansawdd yr hyn sydd yn y dŵr yma ar Ynys Môn yn cymharu yn dda iawn gyda phob man arall yn y byd; mae'r lle yn hollol naturiol," meddai Dr Dylan Evans, arbenigwr ar fywyd y môr sydd wedi teithio'r byd gyda'i waith.

"Mae 'na fwy o amrywiaeth yn fan yma nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Mae fel y Great Barrier Reef! 

"Blynyddoedd yn ôl roedd hi'n ddigon hawdd prynu pysgod yma'n syth o'r cwch.

"Felly pam 'da ni ddim yn medru gwneud hyn rhagor dwi ddim yn gwybod, mae rhywbeth wedi newid."

Roedd trigolion y dref yn arfer gwneud bywoliaeth o bysgota gyda'r hyn oedd yn cael eu dal rhwng y pontydd.

Ond gyda'r traddodiad yma wedi hen ddiflannu, bwriad Tudur Owen yw cynnal y farchnad bysgod gyntaf yn y dref ers dros 50 mlynedd. 

Cawn weld Tudur yn ymweld ag Ysgol David Hughes i glywed barn y bobl ifanc leol am y fenter newydd.

Bydd rhai o'r disgyblion hefyd yn siarad am eu profiadau nhw o weithio ar gychod pysgota yn ystod gwyliau'r haf.

"'Na'th criw Ysgol David Hughes wir godi 'nghalon i achos maen nhw'n deall y busnes pysgod yn dda," meddai Tudur Owen.

"Nid yn unig maen nhw'n gwybod lle i gael y pysgod, maen nhw'n deall sut i'w trin nhw, eu glanhau a'u paratoi.

Maen nhw'n dod yn rhan holl bwysig o'r fenter."

Ychwanegodd: "Ar un adeg ym Mhorthaethwy, roedd 'na dair siop bysgod. Mae pobl yr ynys wedi cael digon o fethu â chael gafael ar bysgod lleol, er bod digon ar gael. Maen nhw'n sicr yn barod am yr her!"

Mae'r rhaglen yn rhan o bartneriaeth rhwng S4C, Sony Pictures Television (SPT) a chwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i ddatblygu fformatau rhaglenni adloniant newydd.

Y nod yw datblygu syniadau am raglenni newydd ar gyfer eu dangos ar S4C, ac yna'u cynnig i ddarlledwyr eraill ar y farchnad ryngwladol.

Tudur Owen a'i Gwmni Pysgod

Nos Sul 1 Mai 8.00, S4C

Hefyd, nos Fawrth 3 Mai 11.00, S4C

Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Darlun ar gyfer S4C

Rhannu |