Teledu

RSS Icon
15 Ebrill 2016

Yn ôl i Chernobyl gyda thîm Y Byd ar Bedwar

Union 30 mlynedd wedi'r ddamwain niwclear waethaf erioed, bydd y newyddiadurwr Eifion Glyn yn dychwelyd i Chernobyl i ddarganfod sut effaith gafodd y ffrwydrad ymbelydrol ar y bobol a'u cymunedau.

Yn y rhaglen ddirdynnol Y Byd ar Bedwar: Cysgod Chernobyl nos Sul 24 Ebrill am 8.00, bydd Eifion yn crwydro'r pentrefi gwag yn yr ardal waharddedig gerllaw'r adweithydd, yn cyfarfod â rhai o'r trigolion y bu'n ffilmio gyda nhw wedi'r danchwa, ac yn ceisio dod o hyd i'r gwir am y nifer sydd wedi marw o ganlyniad i'r trychineb.

Fe ddigwyddodd y ddamwain niwclear ar 26 Ebrill 1986 yn y pwerdy ger ddinas Pripyat, gwaith oedd o dan reolaeth ganolog yr hen Undeb Sofietaidd.

Fe ledodd yr ymbelydredd ar draws yr Undeb Sofietaidd ac Ewrop ac fe gymerodd hanner miliwn o weithwyr ac oddeutu 18 biliwn Ruble i gadw’r byd rhag llygredd pellach.

Ac yntau’n newyddiadurwr gyda’r gyfres materion cyfoes dros gyfnod o chwarter canrif, fe ymwelodd Eifion â Chernobyl ac ardaloedd cyfagos yn yr Wcrain a thros y ffin ym Melarws ac ag ardaloedd gwledig yng Nghymru yn yr 1980au a’r 1990au i ddarganfod pa effaith oedd yr ymbelydredd a ollyngwyd gan y ffrwydrad yn adweithydd rhif 4. 

Mae gwir effaith y chwalfa yn dal yn fater o ddadlau ffyrnig, gyda’r awdurdodau Sofietaidd ar y pryd yn mynnu mai oddeutu 50 yn unig sydd wedi marw yn sgil y trychineb a mudiadau ecolegol fel Greenpeace yn grediniol bod miloedd wedi marw o ganlyniad i’r ddamwain.

Meddai Eifion Glyn: “Mae mesur effeithiau’r ddamwain yn daten boeth ac mae gwleidyddiaeth niwclear yn faes cymhleth, ond un peth sy’n sicr mae’r ddamwain wedi cael effaith seicolegol ddofn ar bobl yr ardal a’r wlad. Mae’r trawma yn dal yn amlwg ymysg y bobl wnes i gyfarfod.”

Mae’r newyddiadurwr profiadol, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ac yn byw yng Nghaerdydd, yn mynd ar drywydd nifer o bobl wnaeth gyfarfod yn ystod ei ymweliadau blaenorol.

Yn eu plith mae Tatyana Lukina, un o sefydlwyr grŵp ymgyrchu Mamau Chernobyl, sydd yn bersonol wedi wynebu blynyddoedd o dor calon deuluol a phroblemau iechyd ers 1986.

Mae hefyd yn chwilio am hen ffrind iddo, Anatoli Artemenko, darlithydd mewn cyfrifiaduron o ardal Chernobyl, a gymerodd ran yn rhaglenni blaenorol Y Byd ar Bedwar.

Mae Eifion ac Anatoli wedi colli cysylltiaid ers rhai blynyddoedd; a chawn wybod mwy am ymdrechion i gael hyd i’w gyfaill.

Meddai Eifion Glyn: “Mae’r Wcráin yn wlad mewn argyfwng enbyd yn wyneb y Rhyfel Cartref fu yno tan y cadoediad a’r tensiynau sy’n rhannu cefnogwyr Rwsia a’r Gorllewin ac mae tlodi mawr yno o hyd fel yr oedd pan es i yno ddiwethaf yn 1996.

"Mae chwerwder mawr ymysg pobl ardal Chernobyl a theimlad cryf bod y byd wedi eu hanghofio.”

Wrth ymweld â’r ardal waharddedig sy’n gylch 18 milltir o gwmpas y gweithfeydd, mae’n cyfarfod rhai o’r tair mil o weithwyr sy’n dal yn gweithio yn yr atomfa ac yn gweld y bwa dur anferth sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd er mwyn amgylchynu a diogelu adweithydd rhif 4.

Ychwanegodd: “Roedd y cyfan yn agoriad llygad ac ymysg y lleoedd rhyfeddaf oedd dinas Pripyat; dyma’r ddinas fawr state-of-the-art Sofietaidd sydd nawr yn atyniad twristaidd rhyngwladol i ymwelwyr sydd am weld safle’r ddamwain niwclear fwyaf erioed.”

Rhannu |