Teledu

RSS Icon
08 Ebrill 2016

OMG! Ysgol yn y gogledd ddwyrain yn agor ei drysau i'r camerâu

Mae pennaeth Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, Bronwen Hughes wedi ymroi'n llwyr i'r ysgol drwy gydol ei bywyd; roedd hi'n ddisgybl yno yn yr wythdegau, mae hi'n gyn-athrawes a bellach yn bennaeth ac mae ei phlant hi'n mynychu'r ysgol heddiw.

Oherwydd ei holl frwdfrydedd a'i ffydd tuag at unig ysgol uwchradd Gymraeg Sir y Fflint, penderfynodd groesawu'r camerâu yno i ffilmio rhaglen ddogfen, OMG: Ysgol Ni!

Bydd drysau Ysgol Maes Garmon yn agor i gynulleidfa S4C ddydd Mawrth, 19 Ebrill.

"Roedd croesawu'r camerâu i'r ysgol yn gyfle i ni adlewyrchu bywyd mewn ysgol uwchradd o ddydd i ddydd,"  meddai Bronwen oedd yn ddisgybl yn yr ysgol rhwng 1981 a 1988.

"Roedd o'n gyfle i ddangos holl waith caled yr athrawon a'r disgyblion, a hybu'r ysgol yn y gornel yma o Gymru."

Pan ddaw hi at addysg Gymraeg, mae Sir y Fflint yn flaengar, gydag Ysgol Maes Garmon ymysg yr ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf erioed.

Agorodd yr ysgol yn 1961, a hi oedd yr ail ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghymru.

Mae Bronwen yn teimlo bod yr ysgol yn flaengar eto drwy groesawu criw ffilmio i'r ysgol.

Meddai: "Mae hi'n ysgol unigryw o fewn Sir y Fflint. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n hybu addysg Gymraeg o fewn y sir.

"Mae canran uchel yn dod o deuluoedd di-Gymraeg, ac mae'r plant yn llwyddo mor dda.

"Maen nhw i gyd yn destun o falchder i mi."

Mae Ysgol Maes Garmon yn ysgol fechan, o'i chymharu ag ysgolion eraill o'i chwmpas.

Mae 500 o ddisgyblion yn yr ysgol, gyda Bronwen yn gobeithio y bydd 'na dwf i 650 erbyn 2018.

Meddai Bronwen: "Dw i wastad yn dweud fod yr ysgol fel un teulu hapus, mae pawb yn edrych ar ôl ei gilydd, dw i mor falch mod i'n aelod o deulu Maes Garmon."

Un disgybl sy'n rhan o deulu Ysgol Maes Garmon yw Emily, sy'n byw yng Nghei Connah.

Byddwn ni'n gweld Emily a'i brawd Ged wrth iddynt fynd i'w gwersi nofio. Mae'n rhaid i Emily a Ged ddeffro'n gynnar iawn i fynd i'r pwll.

Meddai: "Dw i'n codi am hanner awr wedi pedwar y bore, tri diwrnod yr wythnos.

"Dw i'n nofio am chwech, ond dw i angen awr i baratoi, a chael egni a hyder.

"Pan oedd y camerâu yna, mi wnes i drio gwella fy 'strôc' i ychydig bach," meddai Emily aeth i Ysgol Gynradd Croes Atti, Y Fflint.

"Ar ôl i fi nofio, dw i'n newid a chael fy hun yn barod i fynd i'r ysgol, ac wedyn cael fy mrecwast.

"Dw i'n 'neud fy ngwaith cartref wedyn.

"Mae nofio yn y bore yn rhoi mwy o egni i mi.

"Dw i wedi sylweddoli ei fod o'n helpu fy mhatrymau cysgu i, mae gen i lot o egni yn y bore, a dw i'n barod i fynd i gysgu yn y nos."

Mae Emily sydd ym mlwyddyn 8, yn berson byrlymus, ac mae hi'n dweud ei bod hi'n ceisio peidio chwerthin wrth weld y camerâu yn ei dilyn hi.

"Y peth mwya' anodd oedd trio peidio chwerthin!" chwardda Emily. "Oherwydd roedden ni'n cael cyfarwyddiadau i beidio edrych ar y camera.

"Ond ro'n i'n teimlo fy mod i eisiau edrych ar y camera o hyd!"

Ond roedd Emily yn falch o'r cyfle i gael dangos sut le arbennig yw Ysgol Maes Garmon.

Meddai: "Mae Ysgol Maes Garmon yn ysgol arbennig, oherwydd mae gynnon ni athrawon rili dda!

"Maen nhw i gyd wastad yn barod i helpu.

"Mae'r plant mewn ysgolion eraill yn dweud fod eu hathrawon nhw yn rhai cas, ond mae'r athrawon yma'n rili neis!

"Ac oherwydd hyn 'da ni'n medru gweithio'n galed i'r lefel maen nhw ei eisiau hefyd."

Gwyliwch OMG: Ysgol Ni! nos Fawrth, 19 Ebrill i gael cip ar weithgarwch ysgol brysur yn y gogledd ddwyrain.

OMG: Ysgol Ni! Nos Fawrth 19 Ebrill 8.25, S4C Isdeitlau Saesneg Gwefan: s4c.cymru Cynhyrchiad Aden ar gyfer S4C.
 

Rhannu |