Teledu

RSS Icon
03 Mehefin 2011

Bro yn ôl

Mae’r cyflwynwyr Iolo Williams a Shân Cothi wedi teithio milltiroedd ac wedi busnesu ym mhob twll a chornel wrth gasglu ynghyd pobol ddiddorol a straeon difyr ar gyfer y cyfresi blaenorol o Bro.

 

Ac yn awr mewn cyfres newydd, mi fyddan nhw’n mynd at lygad y ffynnon go iawn gan gwrdd â chriw sydd wedi hen arfer â hel straeon eu hunain, a chadw eu bys ar b?ls eu cymunedau. Y tro hwn, mi fydd Iolo a Shân yn teithio o amgylch Cymru yn cwrdd â’r cymeriadau hynny sy’n sgwennu, golygu, cyhoeddi a darllen rhai o’n papurau bro.

 

Meddai Iolo, "Mae’r rhwydwaith papurau bro sydd gennym ni yma yng Nghymru yn bwysig iawn o ran gwarchod yr iaith Gymraeg, hybu ein diwylliant a chadw’r rhai sy’n byw yn ein cymunedau mewn cysylltiad â’i gilydd. Dwi’n edrych ymlaen at sgwrsio â rhai o’r bobl sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni."

 

Yn chwe rhaglen gyntaf y gyfres bydd Bro yn ymweld ag ardal Afon Menai, Dyffryn Hafren, Blaenau Ffestiniog, Caerdydd a’r Wyddgrug. Ond dechrau’r daith bydd bro’r Preseli yng ngogledd sir Benfro, cartre’r papur bro, Clebran.

 

Meddai Shân, "Calon ardal Clebran yw mynyddoedd y Preseli, ond yn y pentrefi bychain sy’n rhan mor bwysig o’r ardal hon, does dim dal be' ffeindiwch chi!"

 

Ymysg y rhai a fydd yn sgwrsio gyda Shân ac Iolo yn y rhaglen fydd ysgrifennydd Clebran, Cris Tomos; aelodau Clwb Glî Ysgol y Preseli, Jac Vaughan – un o yrwyr loris cwmni Mansel Davies sy’n ymddiddori mewn hen dractorau; a Shon Rees o gwmni bysus Moduron Midway.

 

"Mae Shon yn dipyn o gymeriad! Nid yn unig mae’n gyrru bysus i’r ysgol, ond mae hefyd yn yrrwr ceir rali llwyddiannus, ac fe fues i’n chwerthin am oriau yn ei gwmni," meddai Shân. "Cawsom groeso twymgalon gan bobl bro’r Preseli – a chawsom fodd i fyw yn cyfarfod pob un o sêr y rhaglen."

 

Bro: Papurau Bro: Clebran

Nos Fawrth 7 Mehefin 20.25 S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk/bro

Ar alwad: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Telesgop ar gyfer S4C

Rhannu |