Teledu

RSS Icon
03 Mehefin 2011

Dianc rhag cysgodion

MAE’R newyddiadurwr Dylan Iorwerth yn ymweld â Zanzibar i weld ymdrechion yr ynyswyr i adeiladu ar ddylanwadau Arabia ac Affrica yn eu hanes, ac i ddianc rhag cysgodion eu gorffennol.

Rhai milltiroedd o arfordir Dwyrain Affrica, y saif casgliad o ynysoedd a riffiau cwrel gydag enw hudol – Zanzibar, Gwlad y Sbeis.

Fe ddaeth y lle yn enwog am sinamon, clofs, turmeric a phupur du. Diwylliant lliwgar sydd yma heddiw – mae dylanwadau o Arabia ac Affrica yn amlwg ym mherfformiadau Bi Kidude, cantores enwog sydd dros ei chant yn ôl chwedl.

Ond mae hanes tywyllach yma hefyd – dyma ganolfan i’r fasnach gaethweision, ac yn 1964, bu gwrthdaro gwaedlyd rhwng yr hiliau.

Bellach, ar ôl bron hanner canrif o drafferthion, mae’r tlodi a’r afiechyd yn waeth nag erioed. Pam felly fod rhai’n credu fod gan Zanzibar nawr gyfle unwaith ac am byth i droi’r rhod?
 

Yr Ynys: Zanzibar,
Nos Fawrth 14 Mehefin, 21/00, S4C

Rhannu |