Teledu
Byw yn yr Ardd ar grwydr
Crwydro bydd cyflwynwyr Byw yn yr Ardd yr wythnos hon. Bydd Sioned Rowlands yn ymweld â Gŵyl Flodau Llanrhystud, ac mi fydd hi hefyd yn paratoi gosodiad blodau arbennig i ddathlu Sul y Tadau. Yn y cyfamser, bydd Russell Jones a Bethan Gwanas yn ymweld â dwy ardd tra gwahanol i’w gilydd.
Does dim rhaid i Bethan deithio’n bell. Bydd hi’n ymweld â gerddi plasty Caerynwch ym Mrithdir, sy’n agos iawn at le y cafodd hi ei magu ar fferm Gwanas, ac yn agos at ei chartref presennol.
Adeiladwyd plasty Caerynwch gan Syr Rhys Richards a fu fyw rhwng 1752 ac 1823. Cymerodd y plasty newydd le'r un gwreiddiol, Plas Hen, a godwyd yn y 16eg ganrif.
“Mi fyddwn yn mentro sbecian ar y tŷ o bell pan fyddwn i’n crwydro i lawr heibio’r afon pan oeddwn i'n blentyn,” meddai Bethan. “Ro’n i’n gallu gweld y tonau o gennin pedr yn y gerddi, a’r rhododendrons anferthol. Ond dyma’r tro cyntaf i mi grwydro’r gerddi go iawn. Mi roedd yn bleser cael bod yno. Mae’n lle difyr iawn, yn llawn o blanhigion a ddaeth y botanegydd Mary Richards yn ôl i’r Brithdir o bedwar ban byd. Mi roedd Meg a Robin ( fy nith a nai a ddaeth efo fi) wedi gwirioni efo’r goeden fawr sy’n lle chwarae gwych.”
Gardd synhwyrau yn Llanbedr Pont Steffan sy’n mynd â bryd Russell. Mae’r ardd wedi ei lleoli yng Nghanolfan y Bont, canolfan ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag ystod eang o anableddau dysgu.
Meddai Clare Taylor, yr athrawes uned yn y Ganolfan: “Mi roedd yn fendigedig cael y cyfle i groesawu Russell i’n gardd. Mae wedi cael ei chreu i gynorthwyo i gyffroi holl synhwyrau’r plant. Mae’n wych eu gweld nhw’n ymateb i’r ardd.”
Ac meddai Russell: “Mi roedd hi’n bleser cael mynd yno. Mae’r ardd yn cynnig gymaint i’r rhai sy’n ymweld â hi. Mae’n na pherlysiau ag arogl hyfryd, coed sy’n siffrwd yn y gwynt, graean o dan draed, a ffynnon ddŵr.
"Mae perlysiau ar gael hefyd mewn potiau er mwyn i’r plant sy’n methu â cherdded i’r ardd gael y cyfle i’w mwynhau nhw oddi fewn adeilad y Ganolfan. Maen nhw’n tyfu llysiau ffantastig yn yr ardd yma hefyd - yn well na fy llysiau i, ond peidiwch â dweud wrth neb!”
Byw yn yr Ardd
Nos Fercher 15 Mehefin 20.25 S4C
Ac eto dydd Gwener 17 Mehefin 13.55 S4C
Gwefan:s4c.co.uk/bywynyrardd
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C