Teledu

RSS Icon
24 Mawrth 2016

Pennod newydd ar ôl tiwmor ymennydd a 24 mlynedd o driniaeth

Mae dyn o Fôn a oroesodd tiwmor ar yr ymennydd tra'n fabi wedi mynd o dan y gyllell am y tro olaf ar ôl cael ei 16eg llawdriniaeth.

Mae Richard Hughes, 24 oed, o Niwbwrch, yn dweud ei fod o'n "dechrau pennod newydd" yn ei fywyd ar ôl derbyn llawdriniaeth gan ddoctoriaid yn Ysbyty Aintree, Lerpwl i osod mewnblaniad newydd ar ei dalcen.

Bydd y driniaeth yn cwblhau'r gwaith i drwsio'r difrod i'w ben a'i wyneb, a ddechreuodd ar ôl i Richard gael tynnu'r tiwmor yn chwe mis oed.

Cawn glywed stori Richard mewn rhaglen ddogfen ar S4C, O'r Galon: Tu Ôl i'r Graith, nos Fawrth, 29 Mawrth.

Meddai Richard, sy'n weithiwr cefnogol ar gyfer oedolion anabl a phobl â phroblemau iechyd meddwl: "Ti'n dod i arfer efo'r operations.

"Tydi'r llawdriniaeth byth yn braf, ond mae'n deimlad od fod o ddim am fod yn rhan o'm mywyd dim mwy.

"Dwi 'di nabod rhai o'r doctoriaid ers oeddwn i'n chwe mis oed - maen nhw wedi dod yn rhan o fy mywyd i. Ond rŵan dwi'n teimlo fel bo' fi'n dechrau pennod newydd yn fy mywyd i."

Drwy gydol ei blentyndod a'i arddegau, cafodd Richard ei fwlio am y ffordd roedd e'n edrych ac am y creithiau ar ei wyneb o ganlyniad i'r tiwmor.

Mae o'n credu bod y profiadau yna wedi ei arwain i weithio ym myd gofal cymdeithasol.

Ychwanega Richard, a symudodd i Gaernarfon yn ddiweddar gyda'i dyweddi Ffion: "Pan oeddwn i tua 15, 16 oed, byswn i'n mynd i Fangor ar brynhawn Sadwrn efo fy ffrindiau a fyddai pobl yn sbïo arna i, a fyddai rhai hyd yn oed eisiau cwffio efo fi, yn meddwl bo' fi'n rhyw fath o focsiwr achos roedd fy nhrwyn i'n gam.

"Dwi 'di cael yr enwau a dwi 'di cael y bwlio, a 'swn i'n dweud 'mod i'n defnyddio hwnna rŵan i helpu pobl eraill.

"Dwi'n mwynhau gallu helpu pobl, hyd yn oed pethau syml fel mynd allan i siopa iddyn nhw - mae hynny hyd yn oed yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl.

Mae Richard yn gobeithio y bydd y rhaglen yn helpu pobl i ddeall beth mae rhywun fel fo yn gorfod wynebu yn ei fywyd.

"Dwi 'di cael lot o bobl yn syllu arna i erioed, ond fyddai'n well gen i petawn nhw'n dod ata i a gofyn beth sy'n bod. Roedd cael pobl yn syllu arna i a galw fi'n enwau yn rhan o'm mywyd o ddydd i ddydd ers talwm. Mae'r peth yn sicr wedi gwneud fi'n berson cryfach."

O'r Galon: Tu Ôl i'r Graith

Nos Fawrth 29 Mawrth 8.25, S4C

Isdeitlau Saesneg                             

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad ITV Wales ar gyfer S4C

Rhannu |