Teledu

RSS Icon
23 Mawrth 2016

Ffŵl Ebrill! Cyfle i chwerthin ar gymeriadau 'Run Sbit

Mae dydd Gwener, 1 Ebrill yn ddydd Ffŵl Ebrill a bydd S4C yn cloi'r diwrnod gyda llond gwlad o chwerthin yn y gyfres newydd ddychanol 'Run Sbit.

Comedi sefyllfa wedi ei ffilmio mewn steil rhaglen ddogfen yw hon. Ynddi, byddwn yn cael mewnwelediad i drafferthion dyddiol cwmni ‘Run Sbit; yr unig asiantaeth yn y byd sy’n arbenigo mewn darparu tebygwyr (neu lookalikes) o enwogion Cymreig. Ni cheir tebygwr o David Beckham neu Beyoncé fan hyn, ond mae yma ddigonedd o Mici Plwms a Daloni Metcalfes i fynd a bryd unrhyw un.

Cwmni mam a merch yw’r asiantaeth, yn cael ei redeg gan Linda a Caren Brown. Er mai Caren yw’r callaf o bell ffordd, Linda sydd wrth y llyw, ac mae nifer o gamddealltwriaethau ac anawsterau yn dod yn sgil hynny.

Daw 'Run Sbit o'r un stabl â chyfres lwyddiannus Dim Byd, ac yn ystod y gyfres byddwn yn dilyn Linda a Caren sy'n gweithio mewn asiantaeth Lookalikes. Mae 'na argyfwng yn ystod y rhaglen gyntaf, mae gan yr asiantaeth lai na 24 awr i ddod o hyd i debygwr Tommy Cooper cyn apwyntiad pwysig. Ond pam felly eu bod nhw'n ffonio tebygwr Tudur Owen?

"Mae hi mor bwysig i gael comedi yn y Gymraeg, mae o'n denu cynulleidfa wahanol," meddai seren y gyfres Linda Brown sy'n portreadu fersiwn 'estynedig' ohoni hi ei hun. Mae Linda yn byw yn Ngerlan, Bethesda. Mae Caren yn cyd-actio gyda'i mam yn 'Run Sbit, ac mae gwrthdaro rhwng y cymeriadau a'r holl gamddehongli yn arwain at gomedi slapstic, doniol tu hwnt! 

Mae Linda, sy'n 65 oed, yn gymeriad amlwg iawn yn ei milltir sgwâr. Mae hi'n gweithio fel gweinyddwraig yn Theatr Bara Caws ers 33 mlynedd - ac roedd awdur 'Run Sbit, Barrie 'Archie' Jones, eisiau 'sgwennu amdani. Mae Caren, sy'n gweithio gyda Chyngor Gwynedd, yn rhyfeddu at ddawn Archie i bortreadu ei mam.

"Mae 'Run Sbit yn hanner drama ddogfen a hanner comedi. Mae Archie'n 'nabod mam yn dda, ac mae 'Run Sbit yn rhannol wedi'i sgriptio a'i fildio o gwmpas mam. Mae hi'n ffraeth iawn, mae pobl wedi bod eisiau 'sgwennu nofel wedi'i seilio arni ers blynyddoedd. Mae hi'n camddehongli pobl trwy'r amser, ac mae 'na sefyllfaoedd ffyni yn digwydd oherwydd hwnna. Unwaith mi aethon ni i barti, ac mi ddywedodd mam, 'Dwi'n enjoio'r canabis,' ond 'canapées' oedd hi'n feddwl!"

Profiad anodd i'r fam, Linda, oedd actio hi ei hun ar adegau, "Ma' gen i malapropism, dwi'n dweud pethau 'rong, dwi'n siŵr fod gen i ddyslecsia yn fy mrên. Mae hwnna'n dod drwodd yn 'Run Sbit. Ar y dechrau do'n i ddim yn coelio bo' fi'n 'neud o, dwi'n meddwl ei fod o'n cymryd guts i chwerthin am dy ben dy hun… ond fel hyn ydw i. Dwi'n meddwl bod Archie yn 'nabod fi'n iawn; yn gwybod be' sy'n 'neud i mi dicio."

Llwyddiant Dim Byd oedd bod y gynulleidfa'n gwylio cymeriadau cyffredin ac nid actorion yn actio. Mae 'Run Sbit yn efelychu hyn yn ôl Caren, 46, sy'n byw yn Gerlan, dafliad carreg o'i mam.

"Mae defnyddio cymeriadau go iawn yn ei 'neud o'n real ac mae o wedi bod yn gyfle gwych i ddod i 'nabod cymaint o bobl."

Mae Linda a Caren yn hynod o agos, a chafodd y ddwy hwyl yn actio efo'i gilydd yn ôl Caren.

"Ma' pobl yn dweud ei bod hi'n flinedig cael sgwrs efo fi neu mam, achos 'da ni'n bobl weithgar. Mae mam yn fwy sensitif na fi, ac yn llawn hwyl. Mae hi'n ofnadwy o ofalus o'i theulu, ac mae hi yn ei chanol hi ym mhobman. Mae hi'n werth y byd. Dwi wedi mwynhau treulio amser efo mam, bod yng nghwmni ein gilydd yn gwneud rhywbeth ar wahân i betha' fath â chael cinio dydd Sul!"

Ym mhennod gyntaf y gyfres, yn ei brys i selio apwyntiad posib, mae Linda yn addo darparu tebygwr o Tommy Cooper ar gyfer noson Cylch Hud Gogledd Cymru, gan anwybyddu’r ffaith nad oes lookalike o’r consuriwr ar lyfrau’r asiantaeth!

'Run Sbit

Nos Wener 1 Ebrill 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |