Teledu

RSS Icon
10 Mawrth 2016

Her newydd wrth i John a Dilwyn godi hwyl

Bydd John Pierce Jones a Dilwyn Morgan yn herio dyfroedd gwyllt Yr Iwerydd mewn cwch newydd sbon yn y gyfres newydd o Codi Hwyl.

Mae'r gyfres, sy'n dechrau nos Sul, 13 Mawrth ar S4C, yn dilyn John, yr actor poblogaidd sy'n wreiddiol o Niwbwrch, Sir Fôn, a'i gyfaill Dilwyn, cyflwynydd a chomedïwr o'r Bala, ar eu taith ar hyd arfordir gorllewinol Iwerddon.

Ond cyn dechrau hwylio, mae gan y ddau hen ffrind ddiwrnod emosiynol o'u blaenau, wrth iddyn nhw ffarwelio â'u hen gwch, Y Feistres Wilful, fu'n gwmni iddyn nhw yn ystod y tair cyfres flaenorol.

Meddai John, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd: "Prynais i'r Feistres Wilful fel cwch bychan imi ei ddefnyddio i ddysgu hwylio, a dweud y gwir.

"Roedd o'n hen iawn a chafodd ei chwalu ar y daith o Abertawe draw i Ynys Bere yn Iwerddon ar ddechrau'r gyfres ddiwethaf - roedd hi'n siwrnai 78 awr yn lle'r 40 awr roedden ni'n ei disgwyl!

"Roedd y Feistres yn berffaith i hwylio ynddi, ond roedd hi'n hen ffasiwn ac roedd rhaid cael un arall."

Man cychwyn y daith ddiweddaraf ydy Ynys Bere, lle mae'r cwch moethus, newydd - y Mystique - wedi ei angori. Gyda phopty, dau wely a hyd yn oed wet bar yn y caban, roedd y ddau’n gobeithio am siwrnai fwy cyfforddus y tro hwn!

"Roedd yr amser yn iawn i brynu'r Mystique ac roedd y pris yn ardderchog," ychwanega John.  "Mae'n dipyn o gwch ac yn haws i'w hwylio.

"Mae yna gawod arni, a dau wely go iawn. Mae 'na lyw y tu fewn, a llyw tu allan. Er, mae Dilwyn - yr hero a'r purydd fel y mae o - yn mynnu llywio ar y tu allan beth bynnag fo'r tywydd!

"Y tro hwn roedden ni'n hwylio ar hyd Ffordd Wyllt yr Iwerydd, i fyny am ynysoedd yr Aran a Connemara.

"A tydi hwn ddim yn hwylio i wimps - mae'r môr yn eich taro chi'n galed efo tonnau sydd heb weld tir ers America - 'da chi wir yn nannedd yr Iwerydd.

"Yn amlwg, roedd gennym ni gyfres deledu i'w ffilmio, a dim ots beth oedd cryfder y gwynt, roedden ni'n dal yn gorfod mynd allan. Roedd yna adegau dychrynllyd iawn unwaith eto."

Sut 'hwyl' fydd ar John a Dilwyn yn ystod eu taith? Boed law neu hindda, cawn ddilyn eu hynt a'u helynt bob nos Sul ar S4C.

Codi Hwyl
Nos Sul 13 Mawrth 8.30, S4C

Hefyd, 14 Mawrth 3.00; 15 Mawrth 10.30 S4C                 

Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru                                                 

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |