Teledu
Gall Geraint brofi ei bwynt ar ddechrau’r tymor seiclo S4C?
WRTH i’r tymor seiclo ddechrau ar S4C y penwythnos yma, mae cyflwynydd Seiclo Rhodri Gomer yn credu bod gan y Cymro Geraint Thomas bwynt i’w brofi.
Bydd arlwy seiclo S4C eleni yn cychwyn ddydd Sul, 13 Mawrth, gyda darllediad byw o gymal diwethaf ras Paris i Nice o 12.45 ymlaen.
Bydd rhaglen uchafbwyntiau o’r diwrnod hefyd yn cael ei dangos yr un diwrnod, am 10 o’r gloch.
Wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, fe fydd S4C yn dangos uchafbwyntiau o rai o Glasuron y Gwanwyn dros y misoedd nesaf, gan gynnwys y Paris-Roubaix, La Flèche Wallonne a’r ras Liège–Bastogne–Liège.
Dywedodd Rhodri Gomer: “Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r bois yn perfformio ac yn enwedig sut hwyl y bydd Geraint Thomas yn ei gael.
“Dros y 18 mis diwethaf mae e wedi datblygu i fod ymysg y gorau, a dw i’n meddwl y bydd y timau eraill yn ei weld e nawr fel bygythiad.
“Mae’n bosib y bydd y pwysau arno wedi cynyddu rywfaint.”
Daeth Thomas yn 15fed yn y ras gyffredinol yn y Tour de France y llynedd, ac mae’r Cymro o Gaerdydd eisoes wedi cychwyn y tymor hwn gyda buddugoliaeth yn y Tour yr Algarve.
Thomas sydd wedi cael ei ddewis fel arweinydd Team Sky ar gyfer ras Paris i Nice yr wythnos yma, gyda’i gyd-Gymro, Luke Rowe, hefyd yn cymryd rhan.
Ychwanegodd Rhodri Gomer, sy’n gyn chwaraewr rygbi proffesiynol ac yn gyflwynydd ar y gyfres gylchgrawn Heno: “Fe fydd Geraint yn credu ei fod yn ddigon abl i arwain yn y ras hon.
“Daeth e’n agos iawn at ennill y Paris-Nice y llynedd ond fe gafodd e ddamwain.
“Felly fe fydd e’n teimlo bod ganddo rywbeth i’w brofi eleni.
“Y llynedd gafodd Geraint ei Tour de France gorau ac fe chwaraeodd e rôl allweddol yn llwyddiant Team Sky ac ym muddugoliaeth Chris Froome.
“Treuliodd e lot fawr o amser ar flaen y peloton yn amddiffyn Froome, ac efallai dyna pam wnaeth e ddisgyn allan o’r deg uchaf ar ôl 19 cymal.
“Mae’r tymor hwn yn un mawr iddo a bydd rasus y gwanwyn yma yn allweddol i’w baratoadau.”
* Seiclo: Paris i Nice
Dydd Sul 13 Mawrth 12.45pm, yn fyw ar S4C. A rhaglen uchafbwyntiau am 10pm
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad SMS ar gyfer S4C