Teledu

RSS Icon
26 Mai 2011

Deuawd ddisglair yn canu’r hen ffefrynnau

Dyma gyfle i fwynhau cyngerdd o glasuron Cymreig yng nghwmni dau o gantorion disglair Cymru - y tenor Rhys Meirion a’r soprano ifanc Rhian Lois.

 

Bydd Cyngerdd Rhys Meirion a Rhian Lois nos Sadwrn, 28 Mai, yn gymysgedd o unawdau a deuawdau poblogaidd i gyfeiliant Cerddorfa Siambr Cymru dan arweiniad Alwyn Humphreys. Ymysg y ffefrynnau mae 'Arafa Don', 'Huna Blentyn', 'Hywel a Blodwen' ac 'Unwaith eto Nghymru Annwyl'.

 

Y gyngerdd yma ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, oedd y tro cyntaf i Rhys a Rhian berfformio gyda'i gilydd a bydd Rhian yn falch o’r cyfle i wneud eto'n fuan.

 

"Pam lai? Dwi’n credu fod pawb wedi mwynhau, felly dwi'n gobeithio bydd cyfle eto!" meddai Rhian oedd yn perfformio o flaen cynulleidfa yn ei hardal leol.

 

"Cawson ni lot o hwyl gefn llwyfan gan mai ar fy nhir i yng Ngheredigion roeddwn i, felly roedd rhaid i Rhys fod yn ofalus beth roedd e’n ddweud! Roedd e’n golygu llawer i weld cymaint o wynebau cyfarwydd yn y gynulleidfa. Mae pobl Ceredigion wastad wedi fy nghefnogi i ac roedd hi’n braf cael cyfle i roi rhywbeth 'nôl," ychwanega Rhian a fagwyd ym Mhontrhydygroes, ychydig filltiroedd o Bontrhydfendigaid.

 

Mae’r gantores 24 oed ar fin gorffen ei haddysg yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain, lle bu hi’n astudio ers graddio o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf. Mae cyfnod prysur iawn o’i blaen oherwydd ym mis Medi bydd hi’n gwneud ei début gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Llundain.

 

"Dwi eisoes wedi dirprwyo ddwywaith gyda Chwmni Opera Lloegr ond ym mis Medi bydda i’n chwarae rhan Ivette mewn cynhyrchiad o The Passenger gan Weinberg. Mae’n brofiad anhygoel fod hyn wedi dod i fi mor ifanc," meddai Rhian.

 

Ar ddechrau wythnos Eisteddfod yr Urdd Abertawe a’r Fro, mae Rhian yn pwysleisio cymaint o fudd y bu’r Urdd iddi wrth ddatblygu fel cantores. Fe enillodd ar lwyfan yr Urdd am y tro cyntaf yn wyth mlwydd oed, ac yn 2008 fe enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

 

"Roedd ennill £4,ooo Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn hwb mawr wrth fynd i'r coleg, a chael enw Bryn Terfel ar y CV yn hollol wych. Mae cystadlu yn yr Urdd wedi fy mharatoi i o ran rhoi mwy o hyder a phrofiad o berfformio o oed ifanc iawn," meddai Rhian.

 

Cyngerdd Rhys Meirion a Rhian Lois

Nos Sadwrn 28 Mai 21:10, S4C

Hefyd, nos Lun 30 Mai 22:00, S4C

Isdeitlau Saesneg

Rhannu |