Teledu
Oedd palmentydd Llundain yn aur i gyd?
Ar drywydd llwyddiant y Cymry yn Llundain bydd Perthyn yr wythnos hon, wrth i’r gyfres ymchwilio i hanes teulu Olive Corner sy’n wreiddiol o Geredigion. Ond mae syrpreis arbennig iawn yn cuddio yn archifau’r Llyfrgell Genedlaethol sy’n syfrdanu Olive!
Yn y rhaglen nos Fercher, 1 Mehefin, cawn ddysgu am y Cymry a symudodd i geisio bywyd gwell ar balmentydd aur Llundain. Ganed mam Olive yn Llundain. Roedd ei thad-cu a’i mam-gu - Evan a Gwladys Evans - yn rhedeg busnesau llaeth ynghanol y ddinas yn ystod y 1930au ac yn troi mewn cylchoedd Cymreig cryf. Ar y pryd roedd 1,700 o laethdai yn Llundain a llawer yn perthyn i deuluoedd ag enwau Cymreig fel Evans, Lewis a Jones.
"Byddwn i'n licio gwybod yr hanes pam y gwnaethon nhw benderfynu yn y lle cyntaf i fynd i Lundain, a ffeindio mas mwy am eu bywyd nhw yno. Ro'n i’n arfer gwylio’r gyfres Y Palmant Aur ar S4C a dyna sut rwy’n dychmygu eu bywyd nhw yn Llundain," meddai Olive, sydd hefyd am wybod pam y daethon nhw’n ôl i ffermio yng Ngheredigion.
"Roedd mam yn ifanc iawn yn gadael Llundain a dyw hi ddim yn cofio llawer. Dyw ei chenhedlaeth hi heb ddangos llawer o ddiddordeb yn hanes ei rhieni felly dydyn nhw ddim yn gallu rhannu’r stori â ni. Y genhedlaeth nesaf sydd eisiau gwybod," esbonia Olive a ddechreuodd ymchwilio hanes ei mam-gu a'i thad-cu yn dilyn eu marwolaeth, ac mae hi nawr yn difaru peidio holi mwy pan roedd hi’n iau.
Yn ogystal â chael darlun o fywyd Cymry Llundain yn y 1930au, cawn hefyd glywed am effeithiau erchyll bomio didrugaredd y blitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sut effaith gafodd y dinistr ar fywyd mam-gu a thad-cu Olive?
Ond wrth i’r tîm yn y Llyfrgell Genedlaethol ymchwilio’n ddyfnach i stori teulu Olive maent yn dod o hyd i gysylltiad sy’n mynd â’r llinell yn ôl dros 1,000 o flynyddoedd. Nid oes llawer o bobl yn gallu olrhain eu teulu yn ôl mor bell, ac mae darganfyddiad yn y flwyddyn 950 yn datguddio stori sy’n syrpreis llwyr i Olive! Tybed a yw hi’n perthyn i un o’r ffigurau pwysicaf yn hanes Cymru, ac un o arwyr y genedl?
Perthyn
Nos Fercher 1 Mehefin 21:30, S4C
Nos Sul 5 Mehefin 22:45, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg