Teledu

RSS Icon
26 Mai 2011

Dathliad i goroni llwyddiant Clwb Rygbi Shane

Mae hi wedi bod yn dipyn o flwyddyn i garfan ieuenctid yr Aman ar y cae rygbi ac oddi arno.

 

Mae’n anodd credu nad oedd y tîm yn bodoli llynedd a bod criw o fechgyn ifanc yr ardal wedi dod at ei gilydd i hyfforddi a dysgu gyda’r chwaraewr rhyngwladol a brodor o’r Aman, Shane Williams, a chyn-glo Cymru Derwyn Jones.

 

Bydd pennod arbennig o Clwb Rygbi Shane ar nos Iau 9 Mehefin (21:00) yn edrych nôl ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r tymor yn ogystal ag anturiaethau diweddaraf Piggy, Dingram, John Vince, Elinor a’r criw.

 

Cawn weld y gorau o gystadlu yn nhwrnamaint 10 bob ochr a drefnwyd gan Shane. Yno, bydd criw'r Aman yn cystadlu yn erbyn timau lleol ac o bell, yn ogystal â chynnig help llaw i Shane yn stiwardio, rhedeg stondinau a chodi arian i elusennau.

 

“Dyma’n cyfle ni i roi rhywbeth nôl i’r Aman,” eglura’r Dewin o’r Aman, Shane Williams. “Mae’r gefnogaeth i glwb rygbi’r Aman gan y bobl leol a thu hwnt wedi bod yn anhygoel felly mae’r carnifal rygbi yn rhyw fath o ddathliad o lwyddiant y tymor. Mae hefyd yn gyfle i’r tîm ieuenctid ddangos eu doniau ar y cae rygbi am y tro olaf cyn cael saib dros yr haf.”

 

Yn ystod eu gêm gyntaf nhw ar ddechrau’r tymor, collodd y garfan yn drwm yn erbyn Abercraf ac roedd problem disgyblaeth yn amlwg ymhlith y bechgyn. Ond sut siâp sydd ar y garfan erbyn hyn?

 

Meddai Shane, “Mae’r gwahaniaeth wedi bod yn anhygoel ar hyd y tymor. Doedd dim siâp i ddechrau ac roedd camgymeriadau sylfaenol yn costio’n ddrud. Ond mae’n rhaid cofio bod nifer o’r bechgyn yn 16 oed yn chwarae yn erbyn bois 19 oed – bois sy’n fwy mewn maint ac yn gryfach ‘na nhw.

 

“Daeth newid cyfeiriad hanner ffordd drwy’r tymor. Mae’r bois wedi chwarae fel tîm ac wedi dod yn agos i guro’r timau wnaeth rhoi crasfa iddyn nhw ar ddechrau’r tymor. Yn barod mae yna sôn am y tymor nesaf ac am yr ymarferion dros yr haf. Ma’ na gynnwrf yma a phawb yn dod ymlaen yn dda. Roedd chwarae gyda’r ieuenctid yn gyfnod bythgofiadwy ifi ac mae’n gyfle i fechgyn yr Aman wneud lot o ffrindiau newydd a chael atgofion arbennig.

 

“Mae pawb wedi gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant i’r prosiect – y bois, y gymuned leol a’r staff tu ôl i’r llenni yn y clwb. Rwy’n gobeithio fod tîm ieuenctid yn rhywbeth fydd yn cario mlaen am dymhorau i ddod. Ond am nawr, mae Piggy, Dingram a’r lleill yn mwynhau cael bod yn selebs lleol ac arwyddo llofnodion!”

 

O’r Aman i’r Eidal – bydd S4C hefyd yn dilyn taith carfan dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Yr Eidal ac mae ymgyrch Cymru yn dechrau yn erbyn Yr Ariannin prynhawn Gwener 10 Mehefin (16:50) yn fyw ar S4C. Ymysg y gemau eraill i’w ddarlledu’n fyw ar S4C fydd Cymru v Seland Newydd (14 Mehefin) a Chymru v Yr Eidal (18 Mehefin).

 

Bydd gemau Cymru yn y rowndiau cynnar hefyd ar gael i’w gwylio ar alw ar-lein, s4c.co.uk/clic ac mae modd mwynhau holl uchafbwyntiau’r gemau ar y wefan rygbi, s4c.co.uk/rygbi.

 

Clwb Rygbi Shane

Nos Iau 9 Mehefin 21:00 S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

 

Rygbi Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2011: Yr Ariannin v Cymru

Dydd Gwener 10 Mehefin 16:50 S4C

Rhannu |