Teledu
Mwy o’r Urdd nag erioed o’r blaen ar S4C
Bydd modd gwylio darllediadau cynhwysfawr a di-dor o Eisteddfod yr Urdd Abertawe a’r Fro 2011 ar S4C, ac ar-lein, gydol yr wythnos.
Mae darpariaeth y Sianel o’r Ŵyl a gynhelir eleni yn Felindre ar gyrion Abertawe yn dechrau nos Sul, 29 Mai. Ceir gwledd o ganu ac adloniant i ddathlu talent Cymru yng nghwmni wyneb adnabyddus o’r ardal.
Alex Jones, sy'n wreiddiol o Rydaman ac sydd bellach yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd teledu ym Mhrydain, fydd wrth y llyw yn y cyngerdd agoriadol. Yn cymryd rhan bydd seren Phantom of the Opera yn y West End, John Owen Jones, Cerys Matthews, Shaheen Jafargholi, Rapsgaliwn ac enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010 Elgan Llŷr Thomas. Bydd Elysium III, Dawnswyr Talog, Cerian Phillips, Ysgol Gerdd Mark Jermin hefyd yn perfformio, yn ogystal â rhagflas o sioeau cerdd cynradd ac uwchradd yr Eisteddfod.
Meddai Alex, "Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr at gymryd rhan yn y gyngerdd ac mae'n fraint cael fy ngwahodd i arwain noson o dalentau lleol a chenedlaethol. Mae'r Urdd yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru ac yn allweddol i feithrin sgiliau perfformio ac i fagu eu hyder. Fe fues i'n gystadleuydd brwd ar lwyfan y 'Steddfod yn cystadlu yn y dawnsio gwerin, dawnsio disgo, cân actol a phartïon canu ac yn mwynhau mynychu Eisteddfodau’r Urdd ym mhob cwr o Gymru."
Bydd mwy o ddarlledu eleni nag erioed o’r blaen ar S4C, gyda’r cystadlu yn ystod y dydd hefyd yn parhau gyda’r nos.
O fore Llun ymlaen, bydd y gorau o fwrlwm a chystadlu un o wyliau celfyddydol ieuenctid mwyaf Ewrop ar gael i’w wylio’n fyw ar S4C yng nghwmni Nia Roberts, Morgan Jones, Mari Lovgreen a Mari Grug.
Hefyd, bydd Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris yn ymuno â Nia i gyflwyno rhaglenni uchafbwyntiau dyddiol gan roi’r cyfle i’r gwylwyr fwynhau’r gorau o gystadlu’r diwrnod.
Yn ystod seremonïau’r dydd, bydd gwylwyr S4C a gwrandawyr BBC Radio Cymru yn gallu mwynhau sylwebaeth Hywel Gwynfryn ar deledu a radio.
Leni Hatcher fydd yn cyflwyno’r arlwy ar wefan S4C, s4c.co.uk/urdd. Bydd modd hefyd derbyn canlyniadau rhagbrawf a llwyfan yn rhad ac am ddim ar eich ffonau symudol drwy decstio URDD a rhif y gystadleuaeth at 66663.
Bydd nifer o gyfresi eraill ar S4C yn ystod yr wythnos hefyd yn dathlu’r Urdd. Darlledir Cofio: Gwersylloedd yr Urdd nos Sadwrn, 28 Mai. Bydd atgofion o wyliau yn Llangrannog a Glan-llyn yn llifo 'nôl wrth i ni weld lluniau archif o’r gwersyllwyr yn y '60au a’r '70au yn profi’r bywyd agored, yr hwyl a’r cymdeithasu.
Ar fore Sadwrn, 4 Mehefin, bydd llond lle o firi, hwyl, helbul a halibalŵ ar faes carafanau’r Eisteddfod pan fydd Ant, Al, Lois a chyflwynwyr Stwnsh yn cyflwyno Stwnsh Sadwrn.
I gloi darpariaeth S4C o Eisteddfod yr Urdd Abertawe a’r Fro, bydd y Sianel yn darlledu dathliad arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol nos Sul, 5 Mehefin. Mae’r gyfres yn dathlu hanner canmlwyddiant eleni a daw’r rhifyn yma o gymanfa cloi’r Eisteddfod.
I’r rhai ohonoch fydd ar y maes yn ystod yr wythnos, bydd pabell S4C yn fwrlwm o weithgareddau i blant o bob oedran. Bydd yna gyfle arbennig i gwrdd â rhai o hoff gymeriadau Cyw, cyflwynwyr Stwnsh ac actorion Pobol y Cwm yn ystod yr wythnos.
Cyngerdd yr Urdd 2011
Nos Sul 29 Mai 20:30, S4C
Eisteddfod yr Urdd Abertawe a’r Fro 2011
Llun – Sadwrn yn dechrau am 10:00, S4C
Uchafbwyntiau nosweithiol a darlledu byw nos Lun a nos Iau