Teledu

RSS Icon
09 Chwefror 2016

Diweddglo emosiynol wrth i gôr Wynne berfformio am y tro olaf

Bydd côr o weithwyr Wynne Evans ar Waith yn cyrraedd pen eu taith nos Fercher, 17 Chwefror, wrth i'r gyfres gyrraedd diweddglo emosiynol.

Gyda'r ddwy bennod olaf yn cael eu darlledu ar yr un noson, y gyntaf am 7.30 a'r ail - pennod arbennig awr o hyd- am 9.30, bydd y côr o weithwyr o Dŵr Cymru, Edwards Coaches a Trenau Arriva Cymru yn cynnal eu perfformiad olaf erioed.

Ond cyn hynny, bydd y côr o 30 yn mwynhau cael eu trin fel sêr cerddorol am damaid yn hirach, wrth iddyn nhw recordio sengl elusennol yn stiwdio Rockfield ger Trefynwy  - lle bu Queen yn recordio Bohemian Rhapsody; perfformio yn Theatr Hafren yn y Drenewydd, ac yn gwibio lawr gwifren zip ym Mlaenau Ffestiniog i godi arian tuag at Gofal Canser Tenovus.

Un o sêr y gyfres yw'r gyrrwr bws o Edwards Coaches, Eurwyn George, 62 oed, sydd yn wreiddiol o Bencader, Sir Gâr, ond sydd wedi byw yn Aberdâr ers wyth mlynedd, gyda'i wraig Geraldine.

Yn ystod y gyfres mae Eurwyn yn rhoi gwers gyrru bws i'r tenor enwog a thiwtor y côr Wynne Evans, yn ogystal â mynd am dro gyda'r canwr, sydd yn serennu fel Gio Compario yn yr hysbysebion GoCompare, i draeth Pen-bre gyda'i ddau gi bach, Suzie a Spencer.

Meddai Eurwyn: "Dwi wedi mwynhau'r profiad a chael llawer o eiriau braf gan ffrindiau a theulu Edwards Coaches. Mae pawb yn hoffi'r olygfa o Wynne a minnau ar y bws – mae e bron fel sgets gomedi!

"Roedd hi'n wych bod yn rhan o gôr Wynne Evans ar Waith - roedden ni fel teulu bach erbyn y diwedd.

"Rydyn ni'n bwriadu cwrdd lan eto rywbryd - falle ar ôl cwpwl o ddrincs byddwn ni'n canu eto!

"Roedd Wynne yn help mawr ac yn athro da, doedd e byth y colli ei dymer. Gobeithio y caf i'r fraint o ganu gyda fe unwaith eto!"

Meddai Wynne, sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin ond bellach yn byw yng Nghaerdydd: "Doedd gan rai o'r bobl yma ddim profiad o ganu o'r blaen, tra bod rhai wedi gwneud rhywfaint.

"Beth oedd yn hyfryd oedd bod pawb â'i resymau personol dros eisiau ymuno â'r côr. Yr unig beth roeddwn i eisiau gwneud oedd magu cariad at ganu ynddyn nhw."

'Cân Heb ei Chanu' yw'r gân elusennol sy'n cael ei pherfformio gan y côr. Cafodd y gerddoriaeth ei hysgrifennu gan y cyfansoddwr adnabyddus Robat Arwyn, a'r geiriau gan Hywel Gwynfryn. Mae ar gael i'w phrynu nawr oddi ar siopau iTunes, Amazon a Google Plus.

Wynne Evans ar Waith

Nos Fercher 17 Chwefror 7.30 a 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru                   
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Rhannu |