Teledu

RSS Icon
04 Chwefror 2016

Gohebydd profiadol yn ymuno â chriw Y Byd ar Bedwar

Mae gan Y Byd ar Bedwar ohebydd newydd, Catrin Haf Jones - sydd â phrofiad helaeth o fynd o dan groen storiâu gafaelgar. Bydd y gyfres materion cyfoes yn parhau nos Fawrth, 16 Chwefror ar S4C, gyda Catrin yn ymuno â Gwyn Loader i gyflwyno.

Mae gan Catrin flynyddoedd o brofiad o gyflwyno Hacio, rhaglen materion cyfoes S4C i bobl ifanc. Mae'r ferch 27 oed yn teimlo'n freintiedig ei bod hi bellach yn cyflwyno Y Byd ar Bedwar, cyfres sydd wedi darlledu ar S4C ers dyddiau cyntaf y Sianel ym 1982.

"Yr hyn sydd wedi gwneud y gyfres yn unigryw dros y blynyddoedd yw ei bod hi'n mynd dan groen straeon, yn cael hanes pobl go iawn, ac yn adrodd y cyfan o bersbectif unigryw Cymreig a Chymraeg. Mae'n bwysig iawn i fi allu chwarae fy rhan ym mharhad hynny," meddai Catrin sy'n ferch fferm o Gei Bach, ger Aberaeron.

Mae etholiadau'r Cynulliad yn cael eu cynnal ym mis Mai a bydd Y Byd ar Bedwar yn darlledu cyfres arbennig yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Bydd Catrin yn ei helfen yn ystod y cyfnod ymgyrchu, gan fod straeon gwleidyddol o ddiddordeb mawr iddi. 

"Mae gwleidyddiaeth yn cyffwrdd â phopeth yn y bôn. Trio cadw'r cysylltiad â'r ddealltwriaeth yna rhwng y bobol a'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau yw rhan o'r her i fi.

"Nid gwleidyddiaeth y llyfrau llwch a'r pennau llwyd - ond gwleidyddiaeth y byd go iawn; sut mae penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio ar fywydau pobol ar lawr gwlad," meddai Catrin, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae hi wedi cyfweld â gwleidyddion amlwg, yn eu plith Prif Weinidog Prydain, David Cameron, cyn arweinydd Y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, cyn arweinydd y Blaid Lafur Ed Milliband, ac arweinydd UKIP, Nigel Farage, yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac arweinyddion y pleidiau Cymreig.

Ond mae Catrin yn cyfaddef bod holi gwleidyddion yn dipyn o sialens, "Mae hoelio'r rheiny i ateb cwestiynau yn cynnig ei her ei hun!"

Ers dechrau ei gyrfa newyddiadura gyda gwefan Golwg, ac yna â thîm Hacio, mae Catrin wedi dringo'r ysgol newyddiadura yng Nghymru ac yn disgrifio'i hun fel person sy'n mwynhau dilyn trywydd stori.

"Dwi wrth fy modd yn holi a chwestiynu ac er gwell neu er gwaeth, dwi byth yn un i dderbyn y drefn! Dwi'n berson angerddol ac mae annhegwch mewn cymdeithas yn mynd dan fy nghroen.

"Yn ddiweddar, dwi wedi gwneud rhaglenni'n edrych ar berthynas gymhleth a phwysig Port Talbot â'r gwaith dur a sgams ffôn a phost sydd wedi bod yn blingo pobol mewn oed. Mae pob un o'r rhain wedi dibynnu ar bobl ddewr sy'n barod i rannu eu hanesion personol, a phoenus yn aml, er mwyn ceisio gwthio newid."

Wrth feddwl am y stori anoddaf iddi hi ymdrin â hi yn ei gyrfa, mae un yn aros yn y cof.

"Ddechrau'r flwyddyn fe wnes i raglen ar gosbau i'r rhai sy'n achosi marwolaeth ar y ffyrdd, a dau deulu dewr yn rhannu eu profiad o golli merched yn eu hugeiniau cynnar oherwydd gyrwyr diofal a pheryglus.

"Mae gweld effaith colled drasig fel 'na ar deuluoedd yn rhywbeth sy'n aros gyda chi.

"Mae gweithio ar Y Byd ar Bedwar yn her. Mae gan y gyfres hanes hir o ennill gwobrau am straeon dirdynnol ac ymchwiliadau treiddgar - a'n bwriad yw parhau i dorri tir newydd gyda'n straeon."

Y Byd ar Bedwar

Nos Fawrth 16 Chwefror 9.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru                        Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C

Rhannu |