Teledu
O Sir Gâr i Falaysia: Stori dyn o Benygroes wnaeth ddarganfod fod ei dad yn aelod o frenhiniaeth Malaysia
Yn dilyn cyhoeddusrwydd yn y Times, tudalen flaen y Daily Mirror, Mail online, Sun online, Good Morning Britain a'r Cymro, fe fydd dogfen S4C sy'n dilyn dyn o Sir Gâr wrth iddo deithio i ochr draw’r byd i ganfod mwy am ei dad genedigol, a oedd yn aelod o deulu brenhinol Malaysia, yn cael ei ail darlledu.
Yn y rhaglen Fy Nhad y Swltan, ar S4C nos Sul 31 Ionawr 10.00, bydd Keith Williams, sy’n 64 oed ac yn hanu o Benygroes ger Rhydaman, yn mynd i chwilio am deulu ei dad genedigol. Cafodd Keith ei fabwysiadu pan roedd yn ddwy oed ar ôl cael ei eni yn Llanelli.
Bu Keith yn gweithio am dros ugain mlynedd ym musnes glô ei dad ym Mhenygroes ac ennill y llysenw 'Keith y Glo' ymysg ei ffrindiau. Ers ymddeol, fe fagwyd yn Keith ddiddordeb i ddarganfod ei rieni biolegol, diddordeb a arweiniodd at ddarganfod ei fam - Elizabeth Rosa - yn Peterborough.
Ar ôl datblygu'r berthynas gyda'i fam Elizabeth, fe wnaeth Keith ddarganfod fod ei dad genedigol yn aelod o frenhiniaeth Malaysia - dyn a deyrnasodd fel y 33ain Swltan o Perak ar ôl iddo ddychwelyd i'w famwlad o'r Deyrnas Unedig.
Parhaodd teyrnasiad Almarhum Sultan Idris Shah ibni Almarhum Sultan Iskandar Shah o Ionawr 1963 hyd at Ionawr 1984, pan fu farw o drawiad y galon.
Dywedodd Keith: "O'dd ffeindio mas fod fy nhad yn dod o Falaysia yn dipyn o sioc. Ar ôl i fi ffeindio fy mam, wnes i ffeindio mas ei bod hi wedi cadw llawer o luniau a gwybodaeth amdano fe. Mae e fel stori ffilm Disney a 'se rhywun yn dweud hyn wrthyt ti yn y caffi neu wrth y bar, byddet ti’n dweud wrthyn nhw fynd mas!"
Bydd y ddogfen S4C, Fy Nhad y Swltan, yn dilyn Keith a'i fab Timothy ar daith i Falaysia, i geisio canfod mwy am deulu ei dad biolegol.
Meddai Keith; "Ro'n i eisiau ffeindio mas am fy nhad er mwyn fy hunan, ac eisiau gweld tomb fy nhad. Roedd hynny’n emosiynol iawn i fi.
"Mae'r holl brofiad wedi bod fel breuddwyd i ddweud y gwir, achos pwy feddyliodd erioed y buaswn i'n mynd i Falaysia i ffeindio mas am fy nhad."
Fy Nhad y Swltan
Nos Sul 31 Ionawr 10.00
Isdeitlau Saesneg
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C