Teledu

RSS Icon
25 Ionawr 2016

Dathlu un o sêr mwyaf disglair yn hanes chwaraeon Cymru

Cymro o ardal dlawd o Gaerdydd wnaeth helpu i newid y gamp o focsio am byth yw testun ffilm ddogfen ddifyr a fydd yn cael ei darlledu ar S4C nos Wener, 29 Ionawr.

Ac yn y rhaglen Jim Driscoll: Meistr y Sgwâr cawn glywed gan haneswyr, bocswyr a sylwebyddion chwaraeon pam mae 'Peerless' Jim Driscoll yn cael ei ystyried ymysg anfarwolion y byd paffio yng Nghymru, Iwerddon a'r Unol Daleithiau.

O dras Wyddelig, cafodd Driscoll ei eni mewn ardal o Gaerdydd a oedd yn cael ei hadnabod ar y pryd fel 'Iwerddon Fach' ym mis Rhagfyr 1880, ac fe aeth ymlaen i baffio mewn sioeau ffair ar draws De Cymru.

Wedi ymladd mewn dros 600 o ornestau, fe drodd Driscoll yn broffesiynol yn 1901, ac fe aeth ymlaen i wneud enw mawr i'w hun yn Llundain cyn ennill pencampwriaethau Pwysau Plu Prydain a'r Gymanwlad.

Ymysg gwrthwynebwyr mwyaf enwog Driscoll oedd Freddie Welsh o Bontypridd, yr Americanwr Abe Attell a’r Ffrancwr Charles Ledoux.

Mae'r rhaglen, sy’n gyd gynhyrchiad rhwng Rondo Media o Gymru a Square 1 o Iwerddon ar gyfer S4C a TG4, yn dilyn gyrfa Jim, o Brydain i America, lle enillodd edmygedd y wasg a chafodd ei adnabod fel paffiwr a esblygodd y dull bocsio traddodiadol.

Mae'r rhaglen yn cynnwys lluniau prin o rai o ornestau Driscoll ac yn cynnwys cyfraniadau gyda nifer o westeion, megis cyn-bencampwr Pwysau Bantam y Byd Bernard Dunne, yr haneswyr bocsio, yr Athro Gareth Williams a'r Athro Paul O'Leary, a gornith Driscoll, Kitty Flynn.

Mae cyn-bencampwr Pwysau Welter Prydain, Ewrop a'r Gymanwlad, Colin Jones, ymysg y cyfranwyr hefyd.

Meddai Colin Jones: "Roedd Driscoll yn baffiwr cyn ei oes.

"Newidiodd e holl ddelwedd y gamp gan ei fod wedi meddwl amdano gymaint, ac roedd yn defnyddio'i draed yn dda.

"Doedd e ddim yn focsiwr ymosodol. Dwi'n siŵr byddai wedi bod yn ddigon caled i wneud, petai fe eisiau, ond roedd e'n ddyn clyfar."

Yn ystod ei amser yn America, fe gafodd Driscoll gynnig i ymladd am bencampwriaeth y byd, ond fe wrthododd y cyfle er mwyn cymryd rhan mewn gornest elusennol i godi arian i gartref plant amddifad Nazareth House yng Nghaerdydd.

Er ei fod yn gamblwr drwy ei oes, roedd Driscoll yn Babydd i'r carn ac roedd ei gyfeillgarwch wedi ennill cefnogwyr iddo ar hyd Cymru, Iwerddon, Prydain a'r Unol Daleithiau.

Pan fu farw Driscoll ym 1925 ar ôl cael niwmonia, llenwodd 100,000 o bobl strydoedd Caerdydd i weld yr orymdaith angladdol.

Dywedodd yr hanesydd Yr Athro Gareth Williams: "Mae Jim Driscoll - yn rhyfedd iawn - yn un nad oedd yn bencampwr y byd; enillodd e byth mo'r teitl.

"Ond cafodd ei adnabod fel hynny, yn sicr ymhlith ei gyd Gymry.

"Dwi'n credu bod ei safle ymysg y mawrion yn hollol ddiogel, hyd yn oed ymhen cenedlaethau sydd i ddod."

Rhannu |