Teledu
Trafod tafodieithoedd
Fe fydd y bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn mynd â ni ar daith i bob cwr o Gymru i gofnodi a dathlu cyfoeth tafodieithoedd ein gwlad yn y gyfres Ar Lafar o nos Lun, 6 Mehefin ymlaen.
Mewn cyfres wyth rhan fe gawn glywed sut mae'r Gymraeg yn cael ei siarad heddiw wrth i Ifor deithio o Wynedd i Went, o Benfro i Bowys ac o’r Rhondda i’r Rhos. Bydd Ifor yn ceisio mynd at lygad y ffynnon, drwy holi pobl yr ardaloedd hynny eu hunain, am eu tafodiaith, ac yn cael hanes a chefndir pellach gan wahanol arbenigwyr.
Fe fydd y sioe Noson Ar Lafar yn cael ei darlledu’r un noson; cyfle i glywed mwy o dafodiaith wrth i rai o berfformwyr amlyca’n gwlad gyflwyno darlleniadau hwyliog o’u broydd genedigol. Ar y noson gynta, yng Nghlwb Peldroed Caernarfon bydd yr actorion Mari Gwilym a Dewi Rhys yn ein cyflwyno i iaith y Cofi.
Bydd y nosweithiau hyn yn cynnwys ambell i fideo a chân hefyd, llawer ohonynt o archif gyfoethog yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Ymwelwn yn ein tro â Cheredigion, yng nghwmni Ryland Teifi ac Elen Pencwm; Ynys Môn gyda J.O. Roberts a Marged Esli; Cwm Tawe gyda Rhian Morgan a Phyl Harris ymhlith eraill.
Gyda’r gyfres Ar Lafar bydd Ifor yn cychwyn ei daith yng Nghaernarfon gyda thafodiaith y Cofi ond mae'r rhaglen gyntaf hefyd yn ei dynnu i Sain Ffagan ac ardal Abergwaun, Sir Benfro.
Ar ôl mynd ar drywydd hen eiriau sy’n unigryw i Gaernarfon - fel miglo (diflannu), giaman (cath) a slymio (caru) – ac ambell air mwy diweddar fel jaman (cywilydd) bydd yn trafod y busnes o recordio tafodiaith hefo un o weithwyr maes yr Amgueddfa Werin, Roy Saer, ac yn ei sgil bydd yn mynd i Sir Benfro, lle bu Roy’n recordio gynta’ nôl yn 1963.
“Fel llawer o Gymry modern, mae fy rhieni yn hanu o ardaloedd gwahanol o Gymru,” eglura Ifor, a fagwyd yn Llundain gan fam o Lanrwst a thad â’i wreiddiau yng Ngheredigion.
“Dwi wedi arfer ers pan on i’n ddim o beth, glywed geiriau amrywiol am yr un peth. Dyna sut wnaeth fy niddordeb mewn tafodiaith ddechrau, mae’n rhaid gen i, wrth glywed Mam a Nhad yn ‘cywiro’ ei gilydd!”
Yn ystod y gyfres, fe fydd Ifor yn ceisio darganfod lle yn union mae’r ffin rhwng acen y de a’r gogledd, ac yn edrych ar dafodieithoedd hynod Sir Benfro, Maldwyn, a Rhosllannerchrugog. Bydd yn gofyn sut dafodiaith oedd pobl yn ei siarad cyn bodolaeth y recordydd tâp? Sut mae’r Saesneg, a’r sustem addysg yn dylanwadu ar ein tafodieithoedd? A beth yw’r dyfodol?
“Mae gan bob rhan o Gymru ei hacen a’i thafodiaith ei hun - yn y ddwy gyfres, awn i bob cwr o’r wlad i ddathlu hynny, i rannu rhai o’r nodweddion sy’n dal i gyfoethogi’n Cymraeg llafar heddiw,” meddai Ifor, “bydd rhai o'r tafodieithoedd hyn yn gyfarwydd, rhai’n llai cyfarwydd ac ambell un ar fin diflannu, - ond efallai drwy eu cyflwyno ar y sgrin, bydd hynny’n rhoi hyder newydd. Ar lafar mae gogoniant ein hiaith i mi –a dyna pam mae’r ddwy gyfres hon yn ddifyr – ac yn bwysig”.
Ar Lafar
Nos Lun 6 Mehefin 21:00, S4C
Noson Ar Lafar
Nos Lun 6 Mehefin 22:00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk/ffeithiol
Ar Alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C