Teledu

RSS Icon
12 Ionawr 2016

Wynne Evans yn creu côr newydd o blith gweithwyr Cymru

Bydd y tenor Wynne Evans yn wynebu un o sialensiau mwyaf ei yrfa yn y gyfres newydd ar S4C, Wynne Evans ar Waith, wrth iddo geisio creu côr o weithwyr o dri chwmni adnabyddus yng Nghymru.

Yn y gyfres, sydd yn dechrau nos Fercher, 13 Ionawr, fe fydd Wynne yn ceisio canfod talent gerddorol ymysg gweithwyr tri chwmni - Trenau Arriva Cymru, Edwards Coaches a Dŵr Cymru.

Meddai Wynne, sydd yn wreiddiol o Gaerfyrddin ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd: "Doedd gan rai o'r bobl yma ddim profiad o ganu o'r blaen, tra bod rhai wedi gwneud rhywfaint.

"Beth oedd yn hyfryd oedd bod pawb â'i resymau personol dros eisiau ymuno â'r côr. Yr unig beth roeddwn i eisiau gwneud oedd magu cariad at ganu ynddyn nhw."

Yn ystod y gyfres bydd Wynne yn ymuno â staff ar eu shifftiau ac yn cynnal ymarferion ar hyd y wlad er mwyn gweld pa safon sydd ar y lleisiau canu. Ac mae Wynne yn ddigon parod i gyfaddef ei fod yn feistr canu digon caled ar adegau.

"Fe wnaeth pawb ymateb yn wahanol i fy nysgu," meddai'r tenor adnabyddus sydd hefyd yn cyflwyno ar BBC Radio Wales.

"Dwi'n siarad yn eithaf plaen gyda nhw felly pan mae rhywbeth yn wael, fe wna i ddweud wrthyn nhw.

"Fel arall, ti'n gwastraffu amser a doedd gennym ni ddim amser i wastraffu.

"Fy sialens i oedd creu rhywbeth oedd yn swnio'n dda a rhoi iddyn nhw dechnegau er mwyn gwella mewn cyfnod byr o amser."

Fe fydd nifer o wynebau adnabyddus yn ymddangos yn ystod y gyfres i gynnig help i'r côr, gan gynnwys arweinydd Ysgol Glanaethwy Cefin Roberts, y gantores a pherfformwraig amryddawn Caryl Parry Jones, y gantores soprano Rhian Lois a'r cyflwynydd a chynhyrchydd digwyddiadau Stifyn Parri.

Hefyd, fel rhan o'r gyfres, mae'r côr wedi recordio a rhyddhau cân arbennig i godi arian at yr elusen Gofal Canser Tenovus.

Ond yn fwy na dim, mae Wynne yn gobeithio bod y profiad wedi ysbrydoli rhai o'r gweithwyr i barhau i ganu a pherfformio yn y dyfodol.

Eglurodd: "Mae nifer wedi parhau i ganu ers i ni ffilmio'r gyfres. Mae un wedi ymuno â chôr meibion, un bellach mewn band ac un arall wedi ymuno â chymdeithas ddramatig.

"Felly mae e wedi bod yn brofiad gwerth chweil i ddod â cherddoriaeth i mewn i'w bywydau."

Ym mhennod gyntaf y gyfres, bydd Wynne yn ymweld â gweithwyr Dŵr Cymru, yn teithio o Lyn Alwen, ger Cerrigydrudion yn y gogledd, i Gwm Tawe a Chaerdydd yn y dde.

Mae'r gân elusennol, 'Cân Heb ei Chanu' - a gafodd ei hysgrifennu gan y cyfansoddwr adnabyddus Robat Arwyn, a'r geiriau gan Hywel Gwynfryn - ar gael i'w phrynu nawr oddi ar siopau iTunes, Amazon a Google Plus.

Wynne Evans ar Waith

Nos Fercher 13 Ionawr 7.30, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Llun: Wynne Evans a Cefin Roberts

 

Rhannu |