Teledu

RSS Icon
04 Ionawr 2016

Byw cecru a byw cyfrinach - Byw Celwydd yn parhau nos Sul

Mae Matthew Gravelle wedi cael agoriad llygad wrth bortreadu'r ymgynghorydd pwerus Harri James yn nrama newydd S4C Byw Celwydd. A dywed yr actor adnabyddus bod llawer o’r hyn sy'n digwydd yn Senedd Caerdydd yn gwbl ddieithr iddo cyn ymgymryd â'r rôl hon.

Wrth i Byw Celwydd barhau nos Sul, 10 Ionawr, bydd Harri'n ceisio gwneud ei farc ym Mae Caerdydd, a chryfhau grym gwleidyddol y Cenedlaetholwyr yn y fargen. Yn naturiol mi fydd Harri'n gelyniaethu ambell un wrth wneud. Er nad yw Byw Celwydd wedi ei seilio ar weithgarwch presennol y Cynulliad, mae'r themâu a'r cymeriadau wedi'u hysbrydoli gan fodolaeth y Senedd.

"Beth ry'n ni'n ceisio ei wneud yw adlewyrchu gwleidyddiaeth yng Nghymru a gwyntyllu posibiliadau newydd. Dwi wedi mwynhau mas draw, achos cyn Byw Celwydd doedd dim syniad 'da fi sut roedd gwleidyddiaeth yn gweithio yn y wlad yma. Mae e wedi agor fy llygaid i, a nawr dwi'n gweld bod pobl yn chwarae pobl eraill yn erbyn ei gilydd," meddai Matthew sy'n adnabyddus am chwarae'r prif gymeriad Joe Miller yng nghyfres ddrama lwyddiannus ITV, Broadchurch.

Ond nid dim ond drama wleidyddol yw Byw Celwydd. Dyma gyfres â chymeriadau sy'n cecru a chystadlu, yn caru a thwyllo, a phawb am y gorau i gyrraedd y brig ar draul eraill. Ac un o'r rhai mwyaf cynllwyngar a phenderfynol yw Harri James. Wedi blynyddoedd yn byw yn yr Unol Daleithiau, mae'r ymgynghorydd uchelgeisiol wedi dychwelyd i'w famwlad â'i fryd ar wneud ei farc.

Mae Matthew wedi gweithio sawl gwaith gyda'r cynhyrchydd, Branwen Cennard a'r awdur Meic Povey mewn cynyrchiadau megis Teulu a Reit tu ôl i ti. Ond mae ei rôl yn Byw Celwydd yn go wahanol i'r cymeriadau mae wedi eu portreadu yn y gorffennol.

"Mae Harri'n gymeriad sy'n trio arwain a dylanwadu ar bobl," meddai Matthew Gravelle, sy'n 39 oed ac yn wreiddiol o Borthcawl. "Dyw e ddim cweit yn manipulative ond mae fe'n manipulator, ac mae e'n bendant yn manipiwleiddio pobl i wneud beth bynnag mae e'n credu sydd ei angen ar y Cenedlaetholwyr i gyrraedd y brig. Dyw pawb ddim yn barod i'w ddilyn e, hyd yn oed o fewn ei blaid ei hun, ond ar y cyfan mae e'n llwyddo."

Mae presenoldeb Harri wedi dod fel ergyd fawr i Angharad Wynne, y newyddiadurwraig uchelgeisiol, a chwaraeir gan Catherine Ayers. Mae'n amlwg ers y bennod gyntaf bod rhyw fath o gysylltiad rhwng y ddau ond mae eu hanes, hyd yn hyn, yn ddirgelwch.

Yn ôl Matthew, dyma un o gyfrinachau mawr y gyfres a bydd rhaid i'r gynulleidfa aros i weld sut mae'r ddau’n adnabod ei gilydd.

"Mae e wedi cael sioc fawr – hi yw'r person ola' fyddai Harri'n disgwyl gweld yno!" meddai Matthew sy'n byw yng Nghaerdydd, gyda'i wraig Mali Harries sydd hefyd yn actor a'u dau o blant. "Mae e'n cael ei lorio fel mae hi; ac mae ei gweld hi'n dod â'r gorffennol yn ôl iddo fe."

Beth, tybed sy'n llechu yng ngorffennol Harri James? Mae'r cynllwynio, y cecru a'r cyfrinachau'n parhau nos Sul.

Byw Celwydd

Nos Sul 10 Ionawr 9.00, S4C

Isdeitlau Saesneg

Hefyd, nos Fawrth 12 Ionawr 10.00 gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin

Gwefan: s4c.cymru                        Cynhyrchiad Tarian ar gyfer S4C

 

Rhannu |