Teledu

RSS Icon
30 Rhagfyr 2015

O Sir Gâr i Falaysia: Stori dyn o Benygroes wnaeth ddarganfod fod ei dad yn aelod o deulu brenhinol Malaysia

Fe fydd dogfen S4C yn dilyn dyn o Sir Gâr wrth iddo deithio i ochr draw’r byd i ganfod mwy am ei dad genedigol, a oedd yn aelod o deulu brenhinol Malaysia.

Yn y rhaglen Fy Nhad y Swltan, ar S4C nos Fercher 9 Ionawr 9.30, bydd Keith Williams, sy’n 64 oed ac yn hanu o Benygroes ger Rhydaman, yn mynd i chwilio am deulu ei dad genedigol. Cafodd Keith ei fabwysiadu pan roedd yn ddwy oed ar ôl cael ei eni yn Llanelli.

Wedi gweithio am dros ugain mlynedd ym musnes glô ei dad ym Mhenygroes ac ennill y llysenw 'Keith y Glo' ymysg ei ffrindiau. Ers ymddeol, fe  fagwyd yn Keith ddiddordeb i ddarganfod ei rieni biolegol, diddordeb a arweiniodd at ddarganfod ei fam - Elizabeth Rosa - yn Peterborough.

Ar ôl datblygu'r berthynas gyda'i fam Elizabeth, fe wnaeth Keith ddarganfod fod ei dad genedigol yn aelod o frenhiniaeth Malaysia - dyn a deyrnasodd fel y 33ain Swltan o Perak ar ôl iddo ddychwelyd i'w famwlad o'r Deyrnas Unedig.

Parhaodd teyrnasiad Sultan Idris Al-Mutawakkil Alallahi Sallah o Ionawr 1963 hyd at Ionawr 1984, pan fu farw o drawiad y galon.

Dywedodd Keith: "O'dd ffeindio mas fod fy nhad yn dod o Falaysia yn dipyn o sioc. Ar ôl i fi ffeindio fy mam, wnes i ffeindio mas ei bod hi wedi cadw llawer o luniau a gwybodaeth amdano fe.

"Mae e fel stori ffilm Disney a 'se rhywun yn dweud hyn wrthyt ti yn y caffi neu wrth y bar, byddet ti’n dweud wrthyn nhw fynd mas!"

Bydd y ddogfen S4C, Fy Nhad y Swltan, yn dilyn Keith a'i fab Timothy ar daith  i Falaysia, i geisio canfod mwy am deulu ei dad biolegol.

Yn ystod y daith mae Keith yn wynebu rhwystrau wrth geisio siarad gyda’r teulu, ac mae e'n credu fod eu hamharodrwydd  i gwrdd ag e'n deillio o'r ofn y gall Keith, fel mab hynaf y Swltan, hawlio'r teitl, y palas anferth, a'r ffortiwn.

Ond gadael ei gartref yn Sir Gâr yw'r peth diwethaf sydd ar feddwl Keith. Meddai Keith; "Sa i'n gwneud y rhaglen fel rhywbeth yn erbyn nhw - dwi just eisiau ffeindio pethau mas er mwyn fy hunan. Galla i ddeall pam ei bod nhw mor sensitive, ond 'rwy wedi gweld beth fi moyn gweld - sef gweld tomb fy nhad, ac oedd hynny’n emosiynol iawn i fi.

"Mae'r holl brofiad wedi bod fel breuddwyd i ddweud y gwir, achos pwy feddyliodd erioed y buaswn i'n mynd i Falaysia i ffeindio mas am fy nhad."

Fy Nhad y Swltan

Nos Fercher 6 Ionawr 9.30

Isdeitlau Saesneg
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Rhannu |