Teledu

RSS Icon
29 Rhagfyr 2015

S4C yn dilyn milfeddygon wrth eu gwaith bob dydd

Mae gan filoedd o deuluoedd ledled Cymru anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm, ond beth sy'n digwydd iddyn nhw pan maen nhw angen gofal brys y milfeddyg? Dyna yw ffocws y gyfres newydd chwe rhan ar S4C, Bywyd y Fet, sy'n dechrau nos Lun, 4 Ionawr.

Canolbwynt y gyfres ddogfen yw Meddygfa'r Wern, practis milfeddyg anifeiliaid cymysg sydd â'i brif swyddfeydd yn Rhuthun a'r Bala ac yn gwasanaethu ardaloedd Clwyd, Conwy, Meirionnydd, Sir y Fflint a thu hwnt. O gŵn bach sydd angen eu brechu, i wartheg sydd angen caesarean, mae yna wastad anifail anwes neu anifail fferm sy'n mynnu sylw un o filfeddygon prysur Y Wern.

Un o’r bobl sydd yn ein harwain drwy'r gyfres yw un o bartneriaid y practis, Gwyneth Jones. Mae hi wedi gweithio mewn amryw o swyddi yn ei 28 mlynedd gyda'r cwmni. Bellach mae hi'n un o'r partneriaid sy’n berchen ar y cwmni ac yn gweithio yn y swyddfa yn Rhuthun.

Meddai Gwyneth: "'Da ni'n trin anifeiliaid fferm, anifeiliaid anwes a beth bynnag arall sydd yn dod; roedd un o’r tîm allan yn ddiweddar yn gweld camel yn y sw ym Mae Colwyn!

"Mae o'n medru bod yn ddiwrnod hir bod yn filfeddyg. Mae'r rhan fwyaf o'n milfeddygon ni'n gweithio gydag anifeiliaid anwes yn y bore ac yn mynd allan ar y ffermydd yn ystod y prynhawn. Does dim byd glamorous am y swydd, yn enwedig y gwaith ar y fferm!"

Yn ogystal â thaflu goleuni ar y mathau gwahanol o driniaethau mae milfeddygon yn defnyddio o  ddydd i ddydd, mae'r rhaglen hefyd yn dangos pwysigrwydd rôl y ffarier mewn cymunedau cefn gwald ar draws ogledd ddwyrain Cymru. Y ffarier sy'n gofalu am garnau'r ceffylau er mwyn eu cadw'n gyfforddus ac yn iach.

"Rydyn ni'n cyflogi pobl leol a 'da ni'n nabod ein holl gleientiaid lleol, felly dwi'n gobeithio ein bod ni efo perthynas agos â'r gymuned," ychwanega Gwyneth. "Mae'n hanfodol bwysig hefyd ein bod ni ar gael i'r gymuned gefn gwlad leol pan maen nhw angen ni, yn enwedig yn ystod y tymhorau prysuraf, megis y tymor wyna."

Yn rhaglen gyntaf y gyfres nos Lun, mae'r tymor wyna yn ei anterth ac mae digon o waith tynnu ŵyn i Dafydd y fet yn Y Bala. Draw yn Rhuthun, mae Nell yng ngofal yr anifeiliaid bychain, a chi bach o'r enw Oli sy'n cael llawdriniaeth go boenus mewn lle go dyner.

Bywyd y Fet

Nos Lun 4 Ionawr 8.25, S4C

Hefyd, dydd Iau 7 Ionawr 1.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru                       

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Rhannu |